Gwahardd tri o gefnogwyr pêl-droed am ddefnyddio cocên yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae dau ddyn o Plymouth ac un o Ivybridge wedi derbyn gorchmynion gwahardd pêl-droed sy'n eu hatal rhag mynychu unrhyw gêm bêl-droed yn y DU am dair blynedd am ddefnyddio cocên yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd y tri dyn i gyd yn gefnogwyr Plymouth yn eu gêm yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 30 Awst.
Cafodd y tri eu hadrodd i'r stiwardiaid gan un o'u cefnogwyr eu hunain wrth iddyn nhw ddefnyddio cocên yn agored tra'n sefyll yng nghanol cefnogwyr Plymouth eraill.
Pan gafodd eu harchwilio, roedd gan y tri gocên yn eu meddiant, cyffur rheoledig dosbarth A.
Roedd gan Carson Gardner o Plymouth ganabis yn ogystal.
Fe wnaeth y tri gyfaddef i'r drosedd mewn cyfweliad.
Roedd Ronnie Rice o Plymouth a Daniel Logan o Ivybridge hefyd yn gysylltiedig. Mae'r tri yn 21 oed.
Derbyniodd Gardner Orchymyn Gwahardd Pêl-droed am dair blynedd, a dirwy o £133 ynghyd â chostau o £85.
Derbyniodd Ronnie Rice Orchymyn Gwahardd Pêl-droed am dair blynedd, dirwy o £133, ynghyd â chostau o £85.
Derbyniodd Daniel Logan Orchymyn Gwahardd Pêl-droed am dair blynedd, dirwy o £253, ynghyd â chostau o £85.
Bydd y gorchmynion gwahardd yn atal y tri rhag mynychu gemau yn y DU am dair blynedd, a bydd gofyn iddynt hefyd ildio eu pasbortau ar achlysuron pan fydd Lloegr yn chwarae dramor.
Dywedodd yr uwch-arolygydd Emma Fox: “Mae mwyafrif helaeth cefnogwyr pêl-droed yn ymddwyn yn barchus - unigolion fel y rhain sy'n rhoi enw drwg i gefnogwyr pêl-droed a'u clybiau. Nid oes lle iddo.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans