Caerdydd: Ymchwiliad heddlu yn dilyn gwrthdrawiad

Heol Trelai

Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn ardal Caerau o Gaerdydd yn oriau mân fore Sadwrn.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi eu galw i Heol Trelái yn dilyn adroddiadau fod car wedi gwrthdaro gyda nifer o gerddwyr am tua 00:30.

Ychwanegodd y llu eu bod nhw’n credu bod tri o bobl wedi eu taro gan y car gydag un ohonyn nhw wedi “dioddef anafiadau difrifol allai newid bywyd”.

Mae cordon yr heddlu yn yr ardal a bu’n rhaid cau’r ffordd am rai oriau rhwng Lôn Caerau a Ffordd yr Eglwys.

Llun; Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.