'Cyfnod newydd': Y Scarlets yn sicrhau buddsoddiad 'sylweddol' gan gwmni o America

Scarlets / Biggar

Mae rhanbarth rygbi Scarlets wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol gan gwmni o America, a fydd yn prynu cyfran gwerth 55% o’r clwb.

Fel rhan o “bartneriaeth strategol hanesyddol”, mae’r cwmni asiantaeth asedau moethus o America, House of Luxury LLC (HOL) wedi datgan ei bwriad i ddod yn brif gyfranddaliwr ar y clwb a chymryd rheolaeth ohono.

Maent eisoes wedi cymryd rheolaeth weithredol o faterion sydd ddim yn ymwneud â rygbi, ar y cyd gyda bwrdd cyfarwyddwr presennol y Scarlets.

Cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru David Moffat sydd yn arwain adran chwaraeon cwmni HOL, tra bod cyn faswr Cymru a Gweilch, Dan Biggar, yn un o dri chyfarwyddwr newydd.

Fe fydd y cytundeb newydd yn rhoi “sefydlogrwydd ariannol” i’r clwb “ar unwaith” a “chefnogi twf masnachol” gydag arweinyddiaeth strategol HOL.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni mai ei nod fydd i “adeiladu diwylliant perfformiad uchel... a pharhau â chyfraniad sylweddol y clwb i’r economi, y gymdeithas a’r diwylliant lleol yng ngorllewin Cymru.”

Maent wedi datgan na fydd newid i hunaniaeth y clwb, gan gynnwys y bathodyn a lliw'r clwb a’r stadiwm, Parc y Scarlets, ac wedi ymrwymo i ddiogelu diwylliant, “gan gynnwys hyrwyddo’r iaith Gymraeg, cysylltiadau cymunedol a threftadaeth y clwb".

'Dychwelyd i frig rygbi Ewropeaidd'

Dywedodd Simon Muderack, Cadeirydd y Scarlets: “Mae’r bartneriaeth hon yn ddechrau cyfnod newydd i’n clwb, gan gryfhau ein safle gyda buddsoddiad newydd, syniadau newydd ac uchelgais a rennir i ddychwelyd y Scarlets i frig rygbi Ewropeaidd.

“Mae’r cytundeb newydd gyda HOL yn rhoi’r Scarlets yn y sedd flaen wrth edrych at eu dyfodol eu hunain wrth i ni weithredu’n feiddgar i symud ymlaen gyda phartner a fydd yn ychwanegu adnoddau ac uchelgais sylweddol. 

“Yn hollbwysig, mae’n galluogi dyfodol lle bydd y Scarlets yn parhau i chwarae yn Llanelli, yn cadw hunaniaeth gref y Scarlets, ac yn cynrychioli gorllewin Cymru gyfan gyda balchder.”

Dywedodd Kirsti Jane, Prif Weithredwr House of Luxury (HOL): “Dyma un o’r clybiau rygbi mwyaf enwog yn y byd ac rydym yn credu y dylai fod yn cystadlu ac yn ennill ar y lefel uchaf. 

“Rydym yma i wneud i hynny ddigwydd a helpu i yrru llwyddiant y Scarlets yn y dyfodol a diogelu ei hunaniaeth a’i hetifeddiaeth unigryw.”

Daw’r cyhoeddiad wedi i Undeb Rygbi Cymru gadarnhau yn gynharach yn y mis y bydd yn ystyried torri’r nifer o ranbarthau o bedwar, i ddau neu dri.

Mae proses ymgynghori’r Undeb wedi cychwyn ac mae disgwyl penderfyniad fis Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.