Y broses o ethol Archesgob Cymru yn cychwyn
Mae’r broses o ethol Archesgob Cymru wedi cychwyn a hynny ar ôl cyfnod cythryblus pan wnaeth y cyn Archesgob, Andy John ymddeol o'i rôl.
Fe gyhoeddodd y byddai yn rhoi'r gorau i'w waith fel Archesgob Cymru ac fel Esgob Bangor wedi i ddau grynodeb o adroddiad gael eu cyhoeddi oedd yn ymwneud â methiannau yn yr esgobaeth.
Roedd y crynodebau’n cyfeirio at "ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.
Bydd y Coleg Etholiadol yn cyfarfod yn Eglwys a Gwesty St Pierre yng Nghas-gwent ar 29 Gorffennaf.
Fe allai’r trafodaethau cyfrinachol rhwng aelodau’r coleg bara hyd at dri diwrnod, gan olygu y gallai fod rhai diwrnodau eto cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.
Fe fydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd am Gymun Sanctaidd yn Eglwys San Pedr yng Nghas-gwent, sydd ar ystâd San Pierre, cyn i aelodau'r coleg ddechrau trafodaethau cyfrinachol.
Ond pwy allai fod yn Archesgob newydd Cymru?
Bydd Archesgob nesaf Cymru yn cael ei ddewis o blith esgobion sydd eisoes yn gwasanaethu yng Nghymru.
Mae’r rheiny’n cynnwys:
- Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
- Esgob Mynwy, Cherry Vann
- Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
- Esgob Llandaf, Mary Stallard
- Esgob Tyddewi, Dorrien Davies
Fe fydd bob un o’r uchod yn ethol tri chlerigwr i'r Coleg a thri pherson arall sydd yn aelodau o'r gymuned grefyddol ond sydd ddim yn rhan o'r clerigwyr.
Mae'r esgobion presennol sydd wedi eu rhestru hefyd yn aelodau'r Coleg.
Yn dilyn cyfnod o drafod, bydd y llywydd yn gofyn am enwebiadau. Dyw’r esgobion sydd yn cael eu henwebu ddim yn cael bod yn rhan o drafodaethau pellach.
Mae'n rhaid i bwy bynnag fydd yn fuddugol ennill dwy ran o dair o bleidleisiau'r Coleg er mwyn cael ei ethol yn archesgob. Os nad ydynt yn llwyddo i sicrhau hynny, mae’r broses yn cychwyn eto.
Unwaith iddynt gael ei ethol, bydd yr Archesgob yn cael ei anrhydeddu i’r orsedd yn ei gadeirlan gartref yn ddiweddarach.
Os na fydd y Coleg yn llwyddo i ethol Archesgob o fewn tridiau, bydd y penderfyniad yn cael ei drosglwyddo i Fainc yr Esgobion.