
Lladron yn ‘difetha gyrfaoedd’ crefftwyr yng Nghymru
Mae crefftwyr wedi mynegi pryderon am achosion cynyddol o ladron yn targedu eu faniau er mwyn dwyn eu hoffer.
Mae un llu yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 31% mewn lladradau o faniau yn ddiweddar.
Yn ôl Heddlu Gwent, mae’r nifer o ladradau wedi cynyddu o 29 i 38.
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth wedi canfod bod gwerth o leiaf £40 miliwn o offer wedi ei ddwyn yn y DU rhwng 2023-2024, sy’n golygu bod bron i bedwar o bob pump o grefftwyr wedi dioddef lladrad ar gyfartaledd.
‘Dylai hyn ddim digwydd’
Mae Robbie Hawkins yn gweithio fel plymer, ac fe gafodd ei fusnes ei effeithio yn fawr wedi i offer oedd werth dros £3,000 gael ei ddwyn o’i fan.
Ychydig ar ôl hanner nos ar 8 Mai, torrodd lladron i mewn i’w fan Ford Transit Custom a oedd wedi’i pharcio ger ei gartref.
O fewn munud, cafodd gwerth dros £2,000 o’i offer ei ddwyn.
“Collais i bopeth,” meddai Mr Hawkins wrth ITV Cymru.
“Mae hyn yn digwydd i grefftwyr dros Gymru yn ddyddiol.
“Ges i breakdown pan sylweddolais beth ddigwyddodd. Mae hyn wedi fy ngadael gyda hunllefau nos, PTSD a’r teimlad cyson o bryder pan dwi’n mynd i’r gwaith.”
Mae Mr Hawkins, sy’n gweithio dros y canolbarth a de Cymru, wedi ystyried gadael y diwydiant ers y digwyddiad.
“Dwi’n caru fy swydd - dw’i wedi bod yn blymwr ers o’n i’n 16 mlwydd oed,” meddai.
“Ond dydy e ddim ymarferol i barhau pan ti’n colli dy incwm a gorfod prynu offer newydd. Dylai hyn ddim digwydd i bobl mor weithgar.”

Effaith ariannol
Cafodd offer gwerth £5,000 ei ddwyn o fan y trydanwr Lee Jones yn gynharach eleni yn Llandaf, Caerdydd.
Dywedodd Mr Jones: “Digwyddodd hyn yng ngolau dydd. Cymerodd 30 eiliad iddyn nhw dorri twll yn nrws cefn fy fan, a dau funud i’w wagio.
Ychwanegodd Mr Jones nad oedd e’n gallu gweithio am ychydig wythnosau ar ôl y digwyddiad gan fod yn rhaid iddo brynu offer newydd.
“Nid dim ond yn ariannol mae’r effaith, ond ar fy ngyrfa hefyd,” meddai.

Mae rhai crefftwyr wedi mynd ati i fynd i’r afael â lladrad offer.
Mae’r saer coed Matthew Griffin, o Abertawe, wedi annog crefftwyr yng Nghymru i gofrestru rhifau cyfresol eu hoffer ar ei ap, ‘Tool Archive’, er mwyn galluogi i brynwyr ail-law wirio a ydyn nhw’n prynu offer sydd wedi ei ddwyn.
“Mae fy ffrindiau wedi gorfod canslo gwyliau i fforddio prynu offer newydd yn lle’r rhai sydd wedi’u dwyn. Dw’i wedi gweld gyrfaoedd yn cael eu difetha dros hyn,” dywedodd.
Ychwanegodd: “Mae fy nhad hefyd yn grefftwr, a dw’i wedi’i weld e’n ddigalon pan gafodd ei offer eu dwyn.”
Dywedodd y grŵp ymgyrchu, Trades United, eu bod nhw am weld mwy o gyfyngiadau ar werthu offer ail-law am brisiau isel.
Y broblem, medden nhw, yw bod lladron yn gallu gwerthu offer mewn gwerthiannau cist car heb boeni am gael eu dal.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Rydym yn annog pobl i beidio â phrynu offer a allai fod wedi ei ddwyn. Bydd lladron yn ceisio gwerthu eitemau ymlaen i wneud arian yn gyflym, a bydd y math hwn o ladrad yn parhau cyhyd â bod pobl yn parhau i’w prynu.
“Ein cyngor cyffredinol i grefftwyr i leihau’r siawns o gael eu targedu gan ladron yw cymryd camau, fel parcio mewn mannau sydd wedi’u goleuo’n dda, yn ddelfrydol ar lecyn preifat, a sicrhau bod cerbydau wedi’u diogelu pan nad oes neb yn gofalu amdanynt.”