Dewi Bryn Jones yn derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2025
Dewi Bryn Jones yn derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2025
Dewi Bryn Jones sydd wedi ennill Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Mae’n arwain tîm o ddatblygwyr meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Yno mae wedi arwain datblygiadau megis Cysill, Cysgeir, Y Porth Termau Cenedlaethol, a fersiynau digidol o eiriaduron Cymraeg.
Dywedodd yr Athro Delyth Prys, cyn bennaeth yr uned dechnoleg: "Mae’r wobr yn gwbl haeddiannol i Dewi.
"Fuaswn yn mynd mor bell â dweud oni bai am gyfraniad Dewi, ni fyddai gennym feddalwedd Gymraeg heddiw."
Dywedodd y Brifwyl bod Dewi Bryn Jones wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol Cymraeg, gan alluogi’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfrifiaduron ac wrth gyfathrebu’n ddigidol.
Mae’r dechnoleg hefyd wedi cefnogi pobl anabl ac unigolion ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu’n Gymraeg.
Sefydlwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn 2004 i gydnabod cyfraniad unigolion i’r maes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr Athro Glyn O Phillips, cemegydd o Wrecsam, oedd y cyntaf i’w derbyn.
Bydd Dewi Bryn Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod am 13:30, brynhawn Iau, 7 Awst.
‘Creiddiol’
Ychwanegodd yr Athro Deri Tomos, cyn-enillydd y Fedal: "Mae’r uned yma’n hollbwysig i ddyfodol yr iaith.
"Mae Dewi’n byw ym myd cyfrifiaduron – mae’n rhan greiddiol o’i fywyd, ac rwy’n siŵr ei fod wrth ei fodd gyda’r anrhydedd hwn."
Ganwyd Dewi ym Mhwllheli ac ar ôl graddio mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerefrog, bu’n gweithio yng Nghaergrawnt, Zurich a Helsinki.
Yn y Ffindir, dechreuodd gyfieithu a lleoleiddio meddalwedd Netscape Navigator cyn dychwelyd i Gymru i weithio gyda Draig Technology Ltd, lle datblygodd y rhaglen To Bach.
Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw ym maes technoleg lleferydd, gan gynnwys creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu siarad, a datblygu’r ap Lleisiwr ar gyfer cleifion y GIG.
Mae Dewi hefyd wedi cyfuno’r dechnoleg hon i greu Macsen – y cynorthwyydd personol cyntaf yn y Gymraeg – ac wedi cyfrannu’n helaeth at brosiect Common Voice gan Mozilla.
Mae’n darlithio ar gwrs Meistr mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi goruchwylio’r PhD cyntaf yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ef hefyd fu’n gyfrifol am ysgrifennu’r Llawlyfr Technolegau Iaith – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed rhwng 2 - 9 Awst.