Y DU i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd os na fydd tro pedol yn Gaza gan Israel
Bydd y DU yn cydnabod Palesteina fel gwladwriaeth swyddogol ym mis Medi cyn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, meddai Syr Keir Starmer.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai hynny'n digwydd "oni bai bod Llywodraeth Israel yn cymryd camau sylweddol i ddod â'r sefyllfa erchyll yn Gaza i ben".
Roedd y camau hynny yn cynnwys "cyrraedd cadoediad, egluro na fydd unrhyw feddiannaeth ar y Lan Orllewinol, ac ymrwymo i broses heddwch hirdymor sy'n cyflawni Datrysiad Dwy Wladwriaeth", meddai Syr Keir wrth ei gabinet.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod gofynion y DU ar Hamas yn parhau yn eu lle.
Dywedodd bod yn rhaid i Hamas ddiarfogi, rhyddhau'r holl wystlon, llofnodi cadoediad, yn ogystal â derbyn na fyddan nhw'n chwarae rhan yn llywodraeth Gaza.
Fe wnaeth y Prif Weinidog alw'r cyfarfod cabinet brys i drafod cynllun heddwch ar ôl i'r Senedd yn San Steffan orffen am yr haf wythnos ddiwethaf.
Wrth i'r cyfarfod ddigwydd Brynhawn dydd Mawrth, roedd protestwyr o blaid Palesteina wedi ymgynnull y tu allan i Downing Street.
Roedd nifer ohonyn nhw'n gwisgo keffiyehs ac yn taro sosbenni efo llwyau, gydag eraill yn cario baneri Palesteinaidd.
'Pryd, dim os'
Mae Syr Keir yn wynebu pwysau i gydnabod Palesteina fel gwladwriaeth swyddogol ar frys.
Ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Yr wythnos yma mae'r Prif Weinidog yn canolbwyntio ar ddod o hyd i lwybr heddwch er mwyn sicrhau cymorth ac ateb cynaliadwy dwy wladwriaeth.
"Rydyn ni yn glir bod cydnabod gwladwriaeth Palesteina yn fater o pryd, dim os. Ond rhaid iddo fod yn un o'r camau tuag at datrysiad dwy wladwriaeth sydd yn rhan o gynllun ehangach sydd yn dod a diogelwch parhaol i'r Palestinaid a'r Israeliaid."
Mae Israel wedi dechrau cyfnod o seibiant yn yr ymladd ar draws tair ardal o Gaza am 10 awr y dydd i fynd i'r afael â'r sefyllfa ddyngarol sy'n gwaethygu yno.
Fe wnaeth Prydain gadarnhau eu bod nhw yn cymryd rhan yn y cynllun i ollwng bwyd o'r awyr yn yr ardal.
Tra bod mudiadau dyngarol wedi croesawu'r mesurau newydd maent yn dweud nad ydyn nhw yn ddigon er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa o newyn sy'n gwaethygu yn Gaza.
Mae Syr Keir wedi dweud bod y cyhoedd ym Mhrydain "yn ffieiddio at yr hyn maen nhw'n gweld ar eu sgriniau felly mae'n rhaid i ni ddod i gadoediad."
Mae'r Prif Weinidog wedi cymharu'r cynllun y mae'n gweithio arno gyda Ffrainc a'r Almaen fel yr un rhyngwladol sydd yn ei le ar gyfer Wcráin er mwyn canfod heddwch parhaol.
Daw hyn ar ôl i America ac Israel dynnu eu timau cymodi o Qatar wythnos diwethaf. Mae Trump wedi dweud bod Hamas wedi dod yn "anodd iawn i ddelio â nhw" yn yr wythnosau diwethaf. Fe awgrymodd bod hyn am mai dim ond nifer fechan o wystlon Israelaidd sydd ganddynt ar ôl.
Llun: PA