Carcharu gweithiwr gofal iechyd am naw mlynedd am ymosod yn rhywiol ar gleifion

CRUMP

Mae gweithiwr gofal iechyd o Gaerffili wedi cael ei garcharu am naw mlynedd am ymosod yn rhywiol ar ddau glaf yn ystod archwiliadau meddygol.

Fe wnaeth Ieuan Crump, 26, o Gilfach, ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau.

Roedd wedi ymosod ar y ddwy fenyw ar achlysuron gwahanol pan oedd yn gweithio yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân.  

Digwyddodd yr ymosodiadau ar 10 a 13 Awst 2021 pan oedd Crump yn cynnal sganiau ac archwiliadau fel rhan o'i swydd.

Fe wnaeth Crump wadu'r honiadau yn ei erbyn, ond daeth rheithgor i'r casgliad ei fod yn euog o naw achos o ymosod yn rhywiol.

Mewn datganiad dioddefwr a ddarllenwyd i'r llys, disgrifiodd un fenyw sut oedd ei bywyd wedi teimlo fel "hunllef" ers yr ymosodiad.

Dywedodd: "Prif effaith emosiynol yr ymosodiadau rhywiol fu'r effaith negyddol ar fy iechyd meddwl.

"Ro’n i’n teimlo nad oedd unrhyw ffordd i ddianc rhag y meddyliau ymwthiol am yr hyn a wnaeth i mi.

“Fe arweiniodd hyn at geisio cymryd fy mywyd ar dri achlysur.

"Roeddwn i eisiau dod a fy mywyd i ben, fel nad oedd yn rhaid i mi ail-fyw'r hyn oedd yn fy mhen, yr hyn a wnaeth Ieuan i mi.

"Rwy'n teimlo'n anghyfforddus iawn pan fyddaf yn cael fy nhrin gan unrhyw un yn y proffesiwn meddygol, gan nad ydw i bellach yn ymddiried yn neb, yn enwedig mewn meddygon.

"Rydw i wedi bod yn byw mewn hunllef... Rwy'n teimlo fel cragen o'r person oeddwn i'n arfer bod."

Dywedodd menyw arall fod gweithredoedd Crump wedi gwneud iddi "fethu ag ymddiried" mewn dynion.

Mewn datganiad personol dioddefwr a ddarllenwyd i’r llys, dywedodd: “Mae wedi gwneud i mi feddwl, os gall gweithiwr gofal iechyd gyflawni gweithred o’r fath, yna mae unrhyw ddyn yn fygythiad.

“Dydw i ddim eisiau cael fy nhrin gan y GIG na mynd yn ôl i’r Grange.”

'Dewrder'

Dywedodd Michael Jenkin o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Fe wnaeth Ieuan Crump gamfanteisio ar y pŵer oedd ganddo dros ddwy fenyw pan oeddent ar eu mwyaf agored i niwed a hynny er ei foddhad rhywiol ei hun.

"Roedd ei weithredoedd bwriadol a phwrpasol yn achos o dor-ymddiriedaeth eithafol.

"Roedd dewrder y ddwy fenyw wrth roi eu tystiolaeth i'r rheithgor wedi galluogi Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno achos cryf, a arweiniodd at yr euogfarnau hyn, a diolchwn iddynt am eu cymorth."

Rhagor i ddilyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.