Cyhoeddi enw dyn oedrannus a fu farw wedi gwrthdrawiad yn Wrecsam

Stryd Regent Wrecsam

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn oedrannus a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam ym mis Medi.

Dywedodd swyddogion fod Eric Bird, 95 oed, o'r ardal wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sgwter symudedd a Range Rover Evoque ar gyffordd Stryd Regent a Stryd y Brenin yn y ddinas toc wedi 14.00 ar 1 Medi.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ond bu farw ar 23 Tachwedd.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Bryn Roberts o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol bod swyddogion yn apelio am wybodaeth.

"Er i’r gwrthdrawiad ddigwydd ym mis Medi, rydym yn parhau i ymchwilio i’r amgylchiadau llawn ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau," meddai.

"Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn teithio drwy’r ardal ar y pryd ac a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd, neu gan drigolion neu fusnesau a allai fod â CCTV yn gorchuddio’r ffordd. 

"Gallai lluniau a allai fod heb ymddangos yn berthnasol ar y pryd fod yn hanfodol i’n hymchwiliad nawr."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 25000724425.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.