Ymchwiliad llofruddiaethau Harry a Megan Tooze: Rhyddhau dyn 86 oed ar fechnïaeth
Mae dyn 86 oed a gafodd ei arestio ddydd Mercher mewn cysylltiad â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze dros 30 mlynedd yn ôl wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y cwpl eu canfod yn farw gydag anafiadau saethu yn eu ffermdy yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf, ar 26 Gorffennaf 1993.
Dechreuodd yr heddlu adolygiad fforensig o'r achos yn 2023 ac fe wnaeth ditectifs arestio dyn ddydd Mercher.
Mewn diweddariad nos Iau, fe ddywedodd Heddlu'r De ei fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Ar fore Llun 26 Gorffennaf 1993, gadawodd Harry a Megan eu fferm i gasglu eu pensiynau yn Llanhari a gwelwyd nhw'n cyrraedd yn ôl am 11:00.
Tua 13:30, clywodd cymdogion ddwy ergyd gwn ond nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn anarferol ar fferm.
Galwyd yr heddlu pan na chafodd galwad ffôn gan eu merch ei hateb.
Aeth swyddogion i'r fferm a darganfod cyrff Harry a Megan mewn sied wartheg.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaethau Harry a Megan Tooze gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod 2300016841.