Undeb llafur yn parhau i bryderu am amodau gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae undeb llafur sy'n cynrychioli staff sy'n gweithio yn y sector addysg uwch wedi datgan eu bod yn parhau i bryderu am amodau gwaith staff ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn dilyn cyfarfod cyffredinol o’r undeb UCU ddydd Iau, fe ddywedodd aelodau o'r undeb eu bod yn croesawu ‘consesiynau sylweddol’ gan Brifysgol Caerdydd yn y broses a allai arwain at doriadau swyddi a newid mewn amodau gwaith.
Ym mis Ionawr 2025, daeth staff y Brifysgol i wybod am gynlluniau’r Brifysgol i ailstrwythuro.
Ymysg cynlluniau'r brifysgol oedd bwriad i gau adrannau a dod a rhai cyrsiau i ben, fyddai'n effeithio'r adrannau Cerddoriaeth, Hanes Hynafol a Nyrsio - gan dorri 400 o swyddi academyddion ac uno ysgolion o fewn y Brifysgol.
Erbyn diwedd mis Mawrth, roedd undeb yr UCU yn bygwth i’w haelodau fynd ar streic ar 6 Mai. Galwyd y streic hynny i ffwrdd ar 1 Mai ar ôl i’r Brifysgol addo peidio â rhoi diswyddiadau gorfodol i staff
Ym mis Mehefin eleni, fe ddechreuodd undebau llafur yr UCU, Unite ac UNISON anghydfod diwydiannol swyddogol yn sgil pryderon eu haelodau sydd ar staff Prifysgol Caerdydd.
Ers i'r brifysgol gyhoeddi eu bod yn cynnal ymgynghoriad gyda'r gweithlu, mae’r sefydliad addysg uwch wedi cytuno i:
- Sicrhau nad oes diswyddiadau gorfodol ar gyfer staff academaidd yn ystod 2026.
- Diystyru rhoi diswyddiadau gorfodol i’r 187 o academyddion oedd mewn peryg o golli eu swyddi.
- Ymrwymo i beidio diswyddo staff yn orfodol fel rhan o’r cynllun cyfredol o ailstrwythuro staff gwasanaethau proffesiynol, neu gynnig swyddi o’r un radd ar gyfer staff pe bai eu rolau yn cael eu diddymu.
Ond yn y cyfarfod arbennig ddydd Iau, fe bleidleisiodd aelodau undeb yr UCU o blaid mynnu mwy o gonsesiynau dros lwyth gwaith a diogelwch staff.
Dywedodd llefarydd ar ran UCU Caerdydd: “Rydym yn croesawu’r consesiynau sylweddol o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
"Pan ddechreuon ni’n anghydfod yma, dywedodd y Brifysgol na fyddent yn gallu cyrraedd yr un o’n gofynion ond chwe mis yn ddiweddarach, ar ôl ymdrech enfawr gan yr undeb, maent wedi cael eu gorfodi i dderbyn nifer ohonyn nhw.”
“Mae ein haelodau, boed yn academyddion neu staff gwasanaethau proffesiynol, wedi eu brifo gan flwyddyn o doriadau ac aflonyddwch,” ychwanegodd y llefarydd.
'Diswyddiadau yw'r dewis olaf'
Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Wendy Larner, “rydym wedi bod yn glir trwy gydol y cyfnod hynod o anodd a heriol o newid yma mai diswyddiadau gorfodol yw’r dewis olaf.
“Mae’r bwrdd rheoli wedi bod yn gweithio gyda staff a’r tri undeb llafur i ddatblygu cynigion.
“Bydd rhaid i rai swyddi gael eu gwaredu cyn 2029 wrth i weithgarwch leihau neu ddiflannu. Cred y Brifysgol y gallai’r toriadau yma cael eu gwneud yn wirfoddol rheoliadau recriwtio, sydd mewn lle eisoes.
“Mae’r cynigion yn caniatáu’r Brifysgol i gydbwyso lles y staff â’r angen i weithredu ein cynigion a newidiadau sydd eu hangen fel rhan o’n cynllun Dyfodol Academaidd”
Ychwanegodd yr Is-Ganghellor: “Rwyf yn deall pa mor anodd mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod i’n cymuned yn y Brifysgol.
"Doedd peidio gweithredu ddim yn opsiwn. Rwyf yn hyderus y bydd y newidiadau - pa bynnag mor galed - yn hanfodol i sicrhau dyfodol hir-dymor y Brifysgol.”
