Arestio dyn ar ôl i ddyn arall gael ei drywanu ym Mhontypridd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn arall gael ei drywanu mewn tref yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd yr heddlu eu galw toc wedi 12.10 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiad o "ffrwgwd" rhwng ddau ddyn ar Stryd yr Eglwys ym Mhontypridd.
Dywedodd y llu fod y dau ddyn yn adnabod ei gilydd.
Fe gafodd un ohonyn nhw ei anfon i'r ysbyty gyda chlwyf ar ôl cael ei drywanu. Nid yw ei anafiadau'n rhai all beryglu na newid ei fywyd.
Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.