Codi isafswm pris uned o alcohol yn achosi 'mwy o ddioddefaint'
Codi isafswm pris uned o alcohol yn achosi 'mwy o ddioddefaint'
Fe fyddai codi isafswm pris uned o alcohol yn achosi "mwy o ddioddefaint" i deuluoedd pobl sy'n gaeth i alcohol, yn ôl enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025, Iola Ynyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwaith ymchwil sy'n awgrymu codi isafswm pris uned o 50c fel ag y mai gan ddweud y byddai'n arwain at lai yn ei brynu.
Ond mae yna bryder y byddai'n taro pobl sydd â dibyniaeth ac yn ddifreintiedig gyda galw am fwy o raglenni adferiad i rheini sy'n gaeth yn ôl rhai.
Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “ystyried buddion codi isafbris uned alcohol”.
Yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus, rhwng 2019 a 2023 cododd marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol 52% yng Nghymru.
Bob blwyddyn mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod 11,243 o dderbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol bob blwyddyn.
Mi gipiodd Iola Ynyr o Gaernarfon Llyfr y Flwyddyn am ei llyfr 'Camu' sy'n trafod ei dibyniaeth ar alcohol.
"Mi oedd o'n cael effaith yn emosiynol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn bendant yn gorfforol," meddai.
"Odd 'na newid arna i yn allanol oherwydd oni'n syrthio, baglu ac yn taro mewn i bethau ond hefyd roedd fy nhu mewn i'n gwegian."
'Ffeindio ffordd o gael o'
Comisiynwyd ymchwil gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried goblygiadau codi isafswm pris uned o alcohol sydd ar hyn o bryd yn 50c.
Yn ôl casgliadau'r ymchwil mi fyddai "cynyddu'r trothwy o'i lefel bresennol o 50c / uned yn arwain at ostyngiadau pellach yn y defnydd o alcohol, a niwed, gyda'r effeithiau mwyaf yn y grwpiau mwyaf difreintiedig".
Ond dweud mae Iola Ynyr na fyddai wedi gwneud gwahaniaeth iddi hi ac y gallai gael effaith enfawr.
"Dwi ddim yn meddwl fod o'n mynd i newid patrymau yfed pobl sydd yn ddibynnol," meddai.
"Mae unrhyw un sy'n ddibynnol ar alcohol yn mynd i ffeindio ffordd o gael mwy oherwydd dyna sut mae'r salwch yn effeithio ar bobl.
"Mae'r awch am alcohol yn cynyddu ac mae'n rhaid ei gael o ac os di hynny'n digwydd mewn sefyllfa lle mae gan bobl deulu, wel y teulu sydd am ddioddef.
"Wrach bod y person ddim am fwyta, neu trio torri ar gostau ac yn pendraw, yn enwedig os oes na blant mae'n mynd i wneud y sefyllfa yn llawer gwaeth ac mae na fwy o ddioddefaint yn mynd i ddilyn."
Mae Iola Ynyr am weld mwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni adferiad i'r rheini sydd â dibyniaeth gan gynnwys cynlluniau creadigol a chelfyddydol.
"Gweithgarwch sy'n helpu hunanwerth pobl," meddai.
'Helpu'
Mae elusen Alcohol Change UK wedi darparu tystiolaeth i bwyllgorau'r senedd ac o blaid cynyddu'r isafswm pris i 65c.
Er hynny mae Andrew Misall, eu cyfarwyddwr yng Nghymru, yn dweud “nid gwneud alcohol yn rhatach yw’r ateb”.
“Mae angen gwneud mwy, ni’n clywed am bobl mynd am ginio er mwyn prynu alcohol," meddai.
“Yn sicr ma angen inni wneud mwy i helpu’r bobl yma sydd am gael eu taro gan yr isaf bris i gefnogi nhw a neud yn siŵr nad ydy nhw’n dioddef."
Peredur Owen Griffiths AS yw Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth ac mae'n cytuno â'r egwyddor o godi isafswm pris.
Ond mae'n dweud y dylai unrhyw elw sy'n dod gael ei ail fuddsoddi i raglenni sy'n helpu pobl sydd a dibyniaeth.
"Dwi'n meddwl dylai'r pres fynd tuag at y stwff ataliol i trio cadw pobl allan o'r ysbytai, i gadw pobl yn iachach, i helpu pobl sy'n stryglo, yn gaeth neu yn stryglo efo gorddefnyddio," meddai.
"Dwi'n meddwl bod na angen i fuddsoddi, rhywbeth da ni'n gweld ydi nad yw'r arian yn mynd i'r gwasanaethau rheini ac wrth inni weld toriadau yn y gwasanaethau front line mae'n rhaid i'r arian mynd yn ôl mewn i complimentio'r polisi yma."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw’n “ystyried buddion codi isafbris uned alcohol yng Nghymru ar ôl i ymchwil cychwynnol ddangos ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ers ei gyflwyno yn 2020”.
"Byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan i geisio barn pobl a byddwn yn ystyried hyn cyn penderfynu sut i symud ymlaen."