Cludo pedwar i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar yr A55
Fe gafodd pedwar o bobl eu cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A55 fore dydd Mawrth.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 11.00 ar ffordd ddwyreiniol yr A55 rhwng Hen Golwyn a Llanddulas.
Roedd adroddiadau bod y traffig yn ymestyn am ddwy filltir tu draw i Hen Golwyn.
Cadarnhaodd Traffig Cymru am 13.00 fod y lôn wedi ailagor.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mewn datganiad: “Am 11am heddiw fe wnaethon ni dderbyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A55 tua'r dwyrain, ger Cyffordd 23 ger Llanddulas.
“Bu’n rhaid cau’r ffordd dros dro tra bod swyddogion a chriwiau ambiwlans yn bresennol.
“Fe gafodd pedwar o bobl eu cludo i’r ysbyty am asesiad meddygol.
“Dydyn ni ddim yn credu fod ganddyn nhw anafiadau sy’n peryglu eu bywydau.”
Llun: Traffig Cymru