Cwest: Dyn o Wynedd wedi marw ym Malta 'ar ôl disgyn o uchder'
Mae cwest i farwolaeth dyn o Wynedd oedd ar ei wyliau gyda ffrindiau ym Malta ddechrau'r mis wedi clywed ei fod wedi marw yn sgil nifer o anafiadau ar ôl disgyn o uchder.
Bu farw Kieran Hughes, oedd yn 25 oed, ar fore Gwener 11 Gorffennaf.
Wrth agor cwest i'w farwolaeth yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon fore dydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Ei Fawrhydi dros Ogledd Orllewin Cymru fod Mr Hughes yn byw yn Nant Gwynant ger Beddgelert.
Roedd yn beiriannydd meddalwedd.
Cafodd Heddlu Malta eu galw i ardal Triq Spinola yn nhref St Julian's am 04:00 ar ôl adroddiadau fod dyn wedi disgyn o falconi gwesty.
Fe gafodd tîm meddygol eu galw i'r digwyddiad, ond bu farw Mr Hughes yn y fan a'r lle.
Fe gafodd y cwest ei agor a'i ohirio tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C fis yma, dywedodd teulu Mr Hughes ei fod yn "fab ac efaill arbennig."