'Angen cydweithio hefo cwmnïau technoleg i blant wylio mwy o raglenni Cymraeg ar YouTube'
'Angen cydweithio hefo cwmnïau technoleg i blant wylio mwy o raglenni Cymraeg ar YouTube'
Mae angen i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda chwmnïau technoleg er mwyn ei gwneud hi'n haws i blant wylio rhaglenni Cymraeg ar blatfform YouTube, meddai darlithydd sy'n arbenigo yn y defnydd o'r iaith yn y byd digidol.
Daw'r alwad gan Dr Cynog Prys, uwch ddarlithydd cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor, ar ôl i adroddiad blynyddol Ofcom ddarganfod mai YouTube yw'r ail wasanaeth cyfryngau sy'n cael ei wylio fwyaf yn y DU ar ôl y BBC.
Mae'r adroddiad wedi awgrymu bod un o bob pump o blant rhwng pedair a 15 oed yn mynd yn syth ar ap YouTube pan fyddan nhw'n troi'r teledu ymlaen.
Yn ôl Dr Prys, mae canfyddiadau'r adroddiad yn "ofidus" gan nad yw hi'n hawdd i blant ddod o hyd i gynnwys Cymraeg ar y platfform.
"Dydi cynnwys yr iaith Gymraeg ddim mor hawdd i’w ffeindio ar YouTube," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae lot o’r cynnwys ti’n gweld yna yn Saesneg ac mae'r ddarpariaeth Gymraeg wedyn yn fwy cyfyngiedig o fewn hynny.
"Hyd yn oed os wyt ti’n ffeindio rhaglen Cymraeg i’w gwylio ar YouTube, ella bod yr algorithm yn gwthio chdi i’r fideo nesa sy' ddim yn y Gymraeg.
"Wedyn y gofid yn fama ydi bod chdi’n cael dy symud i ffwr' o dy raglen iaith Gymraeg i betha erill – ac mae hwnna’n ofid o ran plant yn enwedig achos maen nhw’n mynd i wylio be' bynnag sy’n dod fyny nesa ar YouTube."
Technoleg lleferydd
Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, mae Dr Prys wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gydweithio gyda chwmnïau technoleg fel Google, sy'n berchen ar YouTube, i ddefnyddio technoleg lleferydd Cymraeg.
Dywedodd fod y dechnoleg, sy'n galluogi cyfrifiaduron i ddeall ac ymateb i leferydd dynol, wedi gwella'n fawr yn diweddar.
Fe gafodd fersiwn Gymraeg o'r dechnoleg ei lansio gan Microsoft Teams yn 2022 er mwyn dehongli cyfarfodydd yn fyw yn y Gymraeg.
"Ar Microsoft Teams, mae hwnna’n gweithio’n dda iawn rŵan, felly mae angen gwneud yn siŵr bod bob un dyfais efo’r dechnoleg lleferydd Cymraeg yma yn y fo a bo' chdi’n gallu defnyddio fo ar YouTube, er enghraifft, i ofyn am raglenni Cymraeg," meddai.
"Os ti’n blentyn a ti methu teipio fo mewn, mae'n golygu bo' chdi'n gallu gofyn amdano fo yn Gymraeg a bo' chdi’n cael cynnwys Cymraeg yn hawdd.
"Mae hwnna’n wbath 'sa YouTube yn gallu ei wneud i sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn haws i’w ganfod a dylai Llywodraeth Cymru a Comisiynydd y Gymraeg fod yn lobïo i gael y dechnoleg yma sy’n bodoli rŵan."
'Cydweithio'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym Gynllun Technoleg Cymraeg uchelgeisiol, ac rydym eisoes yn cydweithio ag amrywiaeth o gwmnïau i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ar blatfformau digidol.
"Un enghraifft amlwg o lwyddiant yw’r modd rydym yn rhannu data gyda phrosiectau a chwmnïau technoleg fyd-eang fel Microsoft i wella deallusrwydd artiffisial yn y Gymraeg.
"Er hynny, croesawn unrhyw gyfle i gydweithio ymhellach gyda chwmnïau a phlatfformau er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg ar-lein."
Mae llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg yn dweud y "dylid ystyried" defnyddio technoleg lleferydd Cymraeg.
"Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Gymraeg yn y byd digidol. Cafodd hynny ei amlygu mewn gwaith ymchwil y gwnaethom ei gyhoeddi yn ddiweddar am arferion pobl ifanc a’r modd maent yn ymwneud â’r Gymraeg," meddai.
"Rydym yn awyddus i weld mwy o gynnwys Cymraeg yn cael ei greu a’i ddefnyddio yn y cyfryngau digidol megis Youtube, gan eu bod yn chwarae rhan gynyddol bwysig ym mywydau pobl ifanc.
"Mae unrhyw ymdrechion i gynyddu’r amrywiaeth o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar y platfformau hyn i’w groesawu. Byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill er mwyn adnabod a datblygu cyfleoedd i wneud hynny.
"Mae defnyddio technoleg lleferydd Cymraeg yn un enghraifft gadarnhaol y dylid ystyried o sut y gall gwasanaethau digidol gefnogi defnyddwyr Cymraeg ifanc."