Y Parchedig Marcus Robinson wedi marw yn 70 oed

S4C

Mae’r Parchedig Marcus Robinson o ardal Caernarfon wedi marw yn 70 oed.

Dechreuodd Mr Robinson bregethu am y tro cyntaf yn 18 oed, cyn ymddeol yn 2021 wedi 43 mlynedd yn y weinidogaeth.

Derbyniodd yr alwad i fod yn Gaplan yn y Llynges Frenhinol ym 1982 ac ar ôl gyrfa amrywiol ar dir ac ar y môr, fe wnaeth ymddeol ar droad y ganrif o rôl Ysgrifennydd Caplan i'r Llynges.

Dywedodd wrth Newyddion S4C yn 2021: “Fel da chi’n gwybod, ma' gennai chwerthiniad iach iawn, mi roedd y morwyr wrth eu bodd efo hynny a dyna pam fy enw i yn y llynges oedd 'Taff the Laugh'.

“Dwi’n falch iawn hyd heddiw bo’ fi’n cael fy nghofio am chwerthin, oherwydd yn anffodus dwi ddim yn meddwl bod llawer o’m nghyd weinidogion yn cael eu cofio am chwerthin ac am eu llawenydd.”

Ganwyd Marcus Robinson yng Nghaernarfon, a chael ei enwi ar ôl Stryd Marcus y dref. 

Graddiodd mewn Diwinyddiaeth a dechreuodd ei weinidogaeth yn Llanberis a Nant Peris ym 1978. 

Dychwelodd i Gymru fel y Caplan Diwydiannol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru ac i ofalu am eglwysi yn Rhostyllen ac Acre-fair. 

O 2007 ymlaen roedd yn weinidog ym Methel, Brynrefail, Caeathro, a Llanrug. 

Gwasanaethodd fel Swyddog Eciwmenaidd ar gyfer Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac ymhellach fel Cadeirydd Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru.

‘Sbarduno newid’

Dywedodd adeg ei ymddeoliad ei fod yn cydnabod bod Cristnogaeth wedi wynebu newid yn ystod ei yrfa, ond ei fod yn ffyddiog bod y ffydd mor fyw ac erioed.

“Dwi’n cydnabod yn fy nghyfnod i mae ‘na newid ymhob cyfnod ond, efallai bod cyflymdra'r newid wedi bod yn fwy nag erioed yn fy nghyfnod i,” meddai.

“Ond mae gen i gred y bydd yr Ysbryd Glan yn sbarduno rhai o’r newydd yn yr amser a ddaw.

"Sut y bydden nhw’n gweithredu efallai fydd yn hollol wahanol i’r patrymau traddodiadol, ac yn bersonol does gen i ddim pryder o hynny o gwbl".

Ychwanegodd wrth siarad â Newyddion S4C yn 2021 bod ei brofiad ar y llynges wedi’i sbarduno i edrych ar draddodiadau yn fwy eang.

“Dwi wedi cael y fraint o nid yn unig gwneud gweinidogaeth traddodiadol, ond wrth gwrs dwi wedi treulio hanner fy ngweinidogaeth mewn caplaniaethau hollol wahanol.

“Ac mae morwyr yn bobl sydd ddim am eich gadael chi hyd braich. Oni'n rhyw deimlo hynny weithiau wrth edrych yn nôl.

"Mae morwyr yn eich gwyneb chi, isho gwybod pwy ydach chi, isho gwybod be 'da chi'n credu.

“A dwi’n gwerthfawrogi oedd ‘na gymal bach ers talwm yn y comisiwn roedd y Frenhines yn rhoi i chi fel caplan, sef eich bod yn gyfaill ac yn gynghorydd i bawb."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.