'Difrod sylweddol' i do ysgol yng Ngwynedd wedi Storm Bram
Mae Ysgol Dyffryn Ogwen, ym Methesda, Gwynedd wedi bod ar gau ddydd Mawrth a bydd ynghau eto ddydd Mercher wrth i waith atgyweirio'r to barhau, ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan wyntoedd cryfion Storm Bram wythnos diwethaf.
Bu’r ysgol ar gau ddydd Mercher (10/12/25) a Gwener (12/12/25) hefyd yn ogystal â Llun (15/12/25) a Mawrth (16/12/25).
Achosodd y gwyntoedd cryfion ddifrod i do’r ysgol, ac mae llechi wedi disgyn a rhai yn ansefydlog “mewn nifer o leoliadau ar draw safle’r ysgol,” yn ôl Cyngor Gwynedd.
Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn derbyn eu haddysg ar-lein ar adegau pan fo drysau'r ysgol ar gau.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, diogelwch yr holl ddisgyblion a staff yw'r flaenoriaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: “Dechreuodd y gwaith asesu ac atgyweirio ar y safle yn syth, ond mae’r tywydd garw pellach dros y dyddiau diwethaf wedi oedi rhywfaint ar y gwaith. Mae swyddogion wedi gallu ail-afael yn y gwaith adolygu at atgyweirio heddiw a bydd hyn yn parhau.”
“Mae swyddogion o wasanaethau Addysg, Eiddo ac Iechyd a Diogelwch y Cyngor wedi bod yn cydweithio i adfer y sefyllfa fel gall disgyblion ddychwelyd yn ddiogel i’w hysgol cyn gynted a phosib. Yn y cyfamser, mae trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu gwaith ar-lein i’r disgyblion.”
“Ein blaenoriaeth yw diogelwch holl ddisgyblion a staff yr ysgol ac rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ac amynedd holl gymuned yr ysgol dros y cyfnod anodd a rhwystredig yma. Mae’r ysgol yn parhau i fod mewn cyswllt gyda theuluoedd i’w diweddaru am y gwaith.”