Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio'r ffi drwydded
Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn edrych ar ffyrdd o ddiwygio'r ffi drwydded, gan ystyried mwy o opsiynau refeniw masnachol i'r BBC.
Dyna'r cynlluniau sydd wedi eu hamlinellu yn adolygiad y llywodraeth i'r siarter frenhinol.
Daw'r cyhoeddiad yng nghanol cyfnod cythryblus i'r BBC wedi ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r Pennaeth Newyddion ac achos Arlywydd America, Donald Trump yn erbyn y Gorfforaeth.
Daeth i'r amlwg ddydd Mawrth mai £7.5 biliwn yw'r swm y mae e'n ceisio ei hawlio, oherwydd y modd y cafodd ei araith ei golygu ar raglen Panorama, cyn terfysg adeilad y Capitol yn 2021.
Y siarter yw sail gyfansoddiadol y BBC, ac mae'n amlinellu dyletswyddau Ymddiriedolaeth y BBC a’r Bwrdd Gweithredol. Mae'r Gorfforaeth yn cael ei hariannu yn bennaf drwy'r ffi drwydded, sy'n cael ei thalu gan wylwyr ar aelwydydd yn y Deyrnas Unedig.
Mae Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd yn amlinellu diwygiadau o bosib i'r BBC gydag "ystod eang o opsiynau o dan ystyriaeth ar gyfer dyfodol y Gorfforaeth," yn ôl yr Adran Ddiwylliant, Cyfyrngau a Chawaraeon (DCMS).
'Cyfoethogi bywydau'
Bydd y llywodraeth yn ystyried a ddylid diweddaru consesiynau, gan fwrw golwg hefyd ar opsiynau i'r BBC greu mwy o refeniw o'r sector masnachol.
Wrth gyhoeddi ei hadolygiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy: “Rydym eisiau i'r BBC barhau i gyfoethogi bywydau pobl, i ddweud stori Prydain ac arddangos ein gwerthoedd a diwylliant, gartref a thramor, a hynny ymhell i'r dyfodol.
“Mae fy amcanion ar gyfer diwygio'r siarter yn glir. Mae'n rhaid i'r BBC barhau i fod yn gwbl annibynnol, yn atebol gan sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd.”
Yn ôl yr adran, bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar dair amcan; ymddiriedaeth y cyhoedd, ariannu cynaliadwy, a hybu twf a chyfleoedd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie sy'n paratoi i adael ei swydd, ei fod yn croesawu'r Papur Gwyrdd a dechrau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y BBC.
“Rydym yn annog pawb sy'n poeni am lwyddiant y diwydiannau creadigol mwyaf blaengar i fynegi eu barn,” meddai.
“Rydym eisiau sicrhau gwasanaeth cyhoeddus sy'n annibynnol, wedi ei ariannu'n gynaliadwy yn yr hir dymor, ac yn cwrdd â gofynion ein cynulleidfaoedd.”
S4C
Mae mwyafrif arian S4C hefyd yn dod drwy ffi’r drwydded.
Mae siarter bresennol y BBC, sy'n para am 10 mlynedd yn dod i ben fis Rhagfyr 2027.
Roedd y ffi drwydded o dan y chwyddwydr yn gyson o dan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Cafodd ei rhewi am ddwy flynedd ar £159 y flwyddyn, cyn iddi godi fis Ebrill 2024 ac yna fis Ebrill 2025 i £174.50 yn unol â chwyddiant.