Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad yn Llanpumsaint

Aaron Jones
Aaron Jones

Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus bron i flwyddyn wedi gwrthdrawiad ffordd lle bu farw dyn 38 oed yn Llanpumsaint, Sir Gâr. 

Bu farw Aaron Jones, 38 oed, (uchod) ar 23 Rhagfyr y llynedd ar ôl cael ei daro gan gar tra'r oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ddeuddydd cyn y Nadolig.

Fe gafodd Daniel Wyke, 28, o Gaerfyrddin, ei arestio ddiwrnod yn ddiweddarach.

Mae bellach wedi cael ei gyhuddo o un cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus, ac un cyhuddiad o yrru yn beryglus.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ar 15 Ionawr. 

Dywedodd y Rhingyll Sara John o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Aaron, sy'n parhau wrth wraidd yr ymchwiliad hwn. 

"Rydym yn cydnabod fod hwn wedi bod yn ymchwiliad hir, ac rwy'n ddiolchgar i deulu Aaron, a'r gymuned ehangach am eu hamynedd a'u cefnogaeth tra bod ein hymholiadau wedi cael eu cynnal.

"Byddwn yn parhau i gefnogi teulu Aaron wrth i'r achos barhau, ac rydym yn ceisio sicrhau cyfiawnder ar gyfer Aaron a'i anwyliaid."

Mae teulu Aaron Jones wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.