Carchar am 21 mlynedd i yrrwr a anafodd bobl yn ystod gorymdaith Lerpwl
Mae gyrrwr a darodd yn erbyn 134 o bobl a oedd yn dathlu buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Lerpwl yng nghanol y ddinas wedi cael dedfryd o 21 mlynedd a chwe mis o dan glo.
Clywodd y llys i Paul Doyle wylltio y tu hwnt i bob rheolaeth pan darodd yn erbyn pobl yn ystod yr orymdaith i ddathlu buddugoliaeth Lerpwl fis Mai diwethaf
Roedd Doyle wedi pledio'n euog i 31 o droseddau yn ymwneud ag anafu pobl.
Dywedodd yr erlyniad fod car Ford Galaxy Doyle wedi taro i mewn i fwy na chant o bobl, a'i fod "yn barod i achosi niwed difrifol i'r rhai yn y dorf, plant yn eu plith, er mwyn medru gyrru drwy'r ardal".
Fis diwethaf, cyfaddefodd Paul Doyle iddo yrru'n beryglus, a phlediodd yn euog hefyd i 17 cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, naw achos o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol a thri achos o glwyfo yn fwriadol.
Roedd e wedi gwadu'r cyhuddiadau yn flaenorol.
Roedd Doyle wedi teithio i ganol y ddinas o'i gartref yn Croxteth er mwyn casglu ffrindiau o'r orymdaith.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Andrew Menary KC fod Paul Doyle, dros gyfnod o ddwy funud, wedi gyrru ei gerbyd yn erbyn a dros, mwy na chant o bobl.
Dywedodd: "Fe wnaethoch oedi ddwywaith. Ar yr adegau hynny, gallech fod wedi stopio, ond dewisoch barhau."
"Achosodd eich gweithredoedd olygfeydd arswydus a difrod ar raddfa nad yw'r llys hwn wedi ei brofi o'r blaen," meddai.
'Ddim yr un person'
Cafodd 134 o bobl eu hanafu, yr ieuengaf yn chwe mis oed a'r hynaf yn 77 oed.
Y dioddefwr honedig ieuengaf oedd y baban Teddy Eveson. Dywedodd ei rieni wrth y cyfryngau yn ddiweddarach iddo gael ei daflu tua 15 troedfedd i lawr y ffordd yn ei bram adeg y gwrthdrawiad.
Yn ystod yr achos dedfrydu a barodd ddeuddydd, cafodd datganiadau ar ran nifer o ddioddefwyr eu darllen, yn eu plith, Rhys Jones, 30 oed a ddywedodd nad yw wedi cael teimlad yn ôl yn ei law ers y digwyddiad.
Dywedodd: "Mae fy nerfau wedi bod yn wael. Rydw i'n dioddef o orbryder, poen a rhwystredigaeth. Dydw i ddim ddim yr un person bellach, ac mae'n parhau i gael effaith arna i ym mhob agwedd o fy mywyd."
Clywodd y llys hefyd bod un ddynes a gafodd ei tharo gan gar Doyle hefyd yn ddioddefwraig adeg ymosodiad terfysgol Arena Manceinion yn 2017.
Dywedodd Francesca Massey, 24 oed: "Mae'r digwyddiad yn Lerpwl wedi ail agor clwyfau emosiynol o brofiad trawmatig blaenorol, pan roeddwn yn ddioddefwraig adeg yr ymosodiad terfysgol yng nghyngerdd Ariana Grande ym Manceinion."
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd David Price, 44 oed, iddo gael gael gwahoddiad i ymuno yn yr orymdaith yn Lerpwl i ddathlu diwedd ei driniaeth ar gyfer canser.
Dywedodd: “Roedd y penwythnos hwn i fod yn un llawen, llawn gobaith, yn arwydd fy mod yn gwella, ar ôl goroesi un o gyfnodau tywyllaf fy mywyd.
"Mae'r trawma ma hwn wedi mynd â fi i le tywyllwch na'r frwydr yn erbyn canser," ychwanegodd.
Yn ôl y dyn sy'n cael ei ystyried yn "arwr" wedi iddo neidio i mewn i gar Paul Doyle a sicrhau fod y car yn dod i stop, mae'r profiad wedi ail danio ei drawma yn y gorffennol fel milwr, a'i fod bellach yn cynddeiriogi'n rhwydd.
Dywedodd Daniel Barr, 41 oed, mewn datganiad iddo lwyddo i "gadw fy nheimladau am ei gyfnod yn Irac o dan reolaeth am flynyddoedd," tan y digwyddiad yn Lerpwl fis Mai diwethaf.
Cyhuddiadau yn y gorffennol
Clywodd Llys y Goron Lerpwl i Paul Doyle gael ei garcharu am flwyddyn yn Nhachwedd 1994 ar ôl iddo gnoi clust dyn arall mewn ffrwgwd bedwar mis ynghynt.
Pan gafodd ei holi gan yr heddlu wedi'r digwyddiad yn yr orymdaith yn Lerpwl, dywedodd iddo fod mewn ffrwgwd meddwol gyda morwyr ar y pryd yn haf 1994.
Roedd hefyd wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn anonest a thor heddwch yn yr Alban yn Rhagfyr 1993, clywodd y llys.
Rhwng 18 a 22 oed, cafodd Doyle ei gyhuddo o sawl trosedd, ond dywedodd y Barnwr ei fod yn cydnabod bod Doyle wedi cymryd camau i newid ei fywyd er gwell yn y 30 mlynedd ers iddo gael ei ryddhau o garchar ym Mai 1995.
Nododd fod Doyle wedi cael ei ddisgrifio fel "gŵr a thad cariadus, yn ffrind cefnogol, a rhywun sydd wedi byw bywyd disgybledig am flynyddoedd" ond bod angen iddo gymryd i ystyriaeth difrifoldeb y troseddau.
Ac yn ôl y Barnwr Menary, gallai Doyle fod wedi pledio'n euog llawer ynghynt.