Arestio dyn wedi achos o dreisio honedig mewn clwb nos yn y de-orllewin

Clwb nos Sands

Mae dyn 18 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â honiadau am achos o dreisio mewn clwb nos yn Llanusyllt (Saundersfoot) yn Sir Benfro.   

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad ac yn apelio am unrhyw wybodaeth allai gynorthwyo eu swyddogion.  

Yn ôl y llu, maen nhw'n ymchwilio i adroddiadau i'r drosedd honedig ddigwydd yn ardal y toiledau yng nghlwb nos Sands toc ar ôl 03:00 fore Sul, 14 Rhagfyr.  

Mae'r dyn 18 oed yn y ddalfa.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.