John Hardy i adael y BBC wedi bron i 50 mlynedd

Llun: BBC
John Hardy

Mae'r darlledwr John Hardy wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y BBC ym mis Mawrth, wedi bron i 50 mlynedd gyda'r gorfforaeth.

Dechreuodd weithio i'r BBC ar 5 Tachwedd 1979, ac yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio fel ymchwilydd, cynhyrchydd, gohebydd, sylwebydd a chyflwynydd ar radio a theledu.

Mae wedi bod yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru dros y degawdau, gan gyflwyno rhaglenni chwaraeon, Bore Bach a Cofio, ymhlith nifer o raglenni eraill.

Ers 2013, mae wedi cyflwyno'r rhaglen gynnar ar Radio Cymru rhwng 05:30 a 07:00 yn ystod yr wythnos.

Bu hefyd yn cyflwyno'r rhaglen archif Cofio am 19 mlynedd, cyn iddi ddod i ben yn 2025.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad fore Mercher, dywedodd: "Tydi amser yn hedfan!

"Ar y pumed o Dachwedd 1979 nes i gerdded yn betrusgar fewn i'r BBC. 48 o flynyddoedd yn ddiweddarach mi fyddai yn ymadael ronyn yn ddoethach ac yn ddiolchgar am y profiad."

'Teithio'r byd yn grwn'

Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, dywedodd: "Prin fod neb wedi cael cystal cyfleon. Radio a theledu, ymchwilydd, cynhyrchydd, gohebydd, sylwebydd a chyflwynydd.

"Dwi 'di blasu nhw gyd a theithio'r byd yn grwn. Ond er bod ymhell o gartref, wedi morio yn agosatrwydd gwrandawyr Radio Cymru."

Diolchodd hefyd i'r bobl sydd wedi gweithio gydag ef yn ystod ei yrfa.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghadw ar y llwybr cul gan fy nhywys drwy'r byd chwaraeon, rhaglenni cyffredinol, Cofio, y Bore Bach a mil fyrdd o raglenni eraill sydd bellach yn ddiogel yn yr archif.

"Dros gyfnod o bron i hanner canrif mae yna ormod o gydweithwyr i ddiolch, 'da chi'n gwybod pwy yda chi, ac fe gawn gyfle i hel atgofion rhwng rŵan a mis Mawrth pan fydda'i yn rhoi'r ffidil yn y to."

'Braint'

Wrth ddiolch i'w gynulleidfa, ychwanegodd: "Yn olaf ond yn bennaf, ma' di bod yn bleser cael cynulleidfa wych sydd wedi bod yn gefn ac yn gymorth. Hebddo chi fyswn ni ddim wedi para pum munud, heb sôn am bron i bum degawd.

"Radio Cymru yw'r gwasanaeth cenedlaethol sydd yma i'ch gwasanaethu chi. Mae hi wir wedi bod yn fraint i gael yr hawl i wneud hynny."

John Hardy yw'r diweddaraf o nifer o wynebau a lleisiau cyfarwydd BBC Cymru i gyhoeddi eu bod yn gadael, wedi i Roy Noble a Derek Brockway gyhoeddi eu penderfyniadau nhw yr wythnos hon.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.