Y wladwriaeth 'heb ofalu am les' merch o Flaenau Ffestiniog sydd ar goll

gwenno ephraim.jpg

Rhybudd: Mae'r erthygl isod yn cyfeirio at hunanladdiad

Mae aelod seneddol wedi dweud na wnaeth y wladwriaeth ofalu am les merch ifanc o Wynedd sydd ar goll ers mis Gorffennaf. 

Cafodd Gwenno Ephraim, 22 oed, o Flaenau Ffestiniog ei gweld ddiwethaf yn ardal Bangor Uchaf. 

Fe ddywedodd yr heddlu ar y pryd eu bod yn credu bod posibilrwydd bod Gwenno wedi mynd i mewn i ddŵr Afon Menai. 

Roedd hi wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ers sawl blwyddyn, ac wedi treulio cyfnodau yn y carchar. 

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn newid y gyfraith "fel y bydd mwy o fenywod yn treulio eu dedfrydau yn y gymuned lle byddant yn cael gwell cefnogaeth."

'Rhwng dwy stôl'

Yn ystod araith ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fawrth, fe ddywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, bod “stori Gwenno yn dangos yr hyn sydd yn digwydd pan mae teuluoedd go iawn yn disgyn rhwng dwy stôl.” 

Image
LSR
Liz Saville Roberts yn rhoi araith ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fawrth

Mae iechyd yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli yng Nghymru ond nid yw’r system gyfiawnder yn cael ei rheoli o Fae Caerdydd. 

Does 'na ddim carchar ar gyfer menywod yng Nghymru, ac felly maen nhw yn cael eu hanfon yn bell oddi wrth eu teuluoedd i garchardai yn Lloegr yn aml.

Cafodd Gwenno Ephraim ei charcharu am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2022 ar ôl iddi daro nyrs tra'r oedd yn glaf mewn uned iechyd meddwl.

Fe gafodd ei hanfon i garchar HMP Styal tu allan i Fanceinion, gan dreulio tri mis yno.

"Dyma oedd ei phrofiad cyntaf o'r system cyfiawnder troseddol. Mae'r teulu'n cydnabod bod ei dioddefwyr yn haeddu cyfiawnder" meddai Liz Saville Roberts.

'Wyneb i waered'

“Doedd tri mis ddim yn ddigon hir i fedru cael diagnosis iawn ar gyfer ei hiechyd meddwl ond roedd yn ddigon hir i droi ei byd hi wyneb i waered,” meddai Liz Saville Roberts wrth aelodau seneddol nos Fawrth.

“Dyma oedd dechrau cylch dieflig o ystafelloedd gwely a brecwast, torri amodau trwydded, dychwelyd yn ddibwrpas ac am gyfnod byr i HMP Styal, golchi dwylo dros dermau fel capasiti pan oedd hi’n amlwg bod Gwenno yn fregus a chyfnodau dirdynnol pan oedd ei hiechyd meddwl yn wael mewn gorsafoedd trên, ysbytai a threfi glan môr gogledd Cymru."

Fe fu Gwenno i mewn ac allan o garchar am gyfnodau byr wyth gwaith rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf eleni. 

Mae mam Gwenno, Karen Ephraim, wedi dweud wrth Newyddion S4C bod ei merch wedi ceisio lladd ei hun sawl gwaith am ei bod hi’n “cael ei dischargio a doedd na ddim gofal iawn iddi.”

Doedd dim llety parhaol ar gael i'w merch ar y pryd ac roedd hi yn ôl ac ymlaen mewn llety gwely a brecwast am gyfnodau meddai ei mam.

Gofal

Mae Karen Ephraim yn teimlo na chafodd ei merch y gofal y dylai hi fod wedi ei gael gan y system iechyd a’r system gyfiawnder. 

Mae hi'n galw am gael gweld dogfennau iechyd ei merch wedi iddi fynd ar goll - rhywbeth nad yw'n bosib ar hyn o bryd.

Wrth drafod hyn yn ystod ei haraith yn San Steffan, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Does yna ddim cwest wedi ei agor am fod Gwenno yn swyddogol ar goll. 

"O achos hyn dyw Karen Ephraim ddim yn cael gweld nodiadau meddygol ei merch am nad oes ganddi ei chaniatâd. 

"Mae hyn yn gwneud synnwyr yn swyddogol, ond yn gwneud dim synnwyr i fam sydd yn galaru ac sydd eisiau atebion.

"Gadewch inni gofio bod Gwenno yng ngofal y wladwriaeth: yn y carchar, yn yr ysbyty ac ar drwydded. Fe wnaethon ni ei gadael i lawr."

Helpu eraill

Gobaith Karen Ephraim yw y bydd y ffaith fod ei haelod seneddol lleol wedi siarad ar lawr y siambr yn San Steffan o fudd i deuluoedd eraill yn y pen draw. 

“Dydy o ddim yn mynd i helpu Gwenno ond gobeithio neith o helpu rhywun arall. Mae 'na bobl yn cael cam o achos y system. 

"Mae pobl yn cael eu cosbi achos be sydd wedi digwydd. Ond mae angen edrych ar wraidd y broblem a pham bod o’n digwydd,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Gwenno Ephraim.

"Mae llawer o fenywod yn cyrraedd y ddalfa gydag anghenion cymhleth ac yn ddioddefwyr eu hunain, yn aml o gam-drin domestig, ac mae dros hanner yn famau.

"Rydym wedi sefydlu Bwrdd Cyfiawnder Menywod i gynghori ar leihau nifer y menywod yn y carchar ac rydym yn newid y gyfraith fel y bydd mwy o fenywod yn treulio eu dedfrydau yn y gymuned lle byddant yn cael gwell cefnogaeth i drawsnewid eu bywydau."

Wrth ymateb i araith Liz Saville Roberts, fe ddywedodd Is-ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Alex Davies-Jones, sydd yn AS dros Bontypridd: "Dwi'n weinidog cyfiawnder balch ond hefyd dwi'n AS Cymreig balch iawn, iawn hefyd ac felly mae popeth y mae hi (Liz Saville Roberts) wedi ddweud heno, dwi'n cydnabod fy hun fel AS sydd yn gyfrifol am etholaeth ac mae fy holl feddyliau gyda theulu Gwenno.  

"Fe fyddwn i'n hapus i gyfarfod gyda Karen i ateb ei chwestiynau hi yn uniongyrchol a sicrhau fod y cyfarfod yna yn digwydd oherwydd mae Gwenno yn enghraifft berffaith pam nad yw'r system gyfiawnder yn gweithio a dyna pam yn union yr ydym ni wedi creu'r Bwrdd Cyfiawnder i Fenywod a chau'r bwlch i sicrhau fod menywod fel Gwenno yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn hytrach na dedfryd yn y carchar o reidrwydd."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda NHS England, sydd yn gyfrifol am asesiadau, diagnosis and thriniaethau iechyd meddwl mewn carchardai yn Lloegr, am ymateb. 

Llun: Heddlu'r Gogledd 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.