Môn: Carchar i ddyn am roi llawr gwaelod bloc o fflatiau ar dân
Mae dyn o Ynys Môn wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar am roi llawr gwaelod bloc o fflatiau lle'r oedd yn byw ar dân.
Cafodd Caleb Corr, 33 oed ac o Bentraeth, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.
Plediodd yn euog i losgi bwriadol yn fyrbwyll (reckless) gan roi bywyd mewn perygl, affräe a difrod troseddol.
Fe wnaeth y digwyddiad achosi gwerth £1,000 o ddifrod.
Clywodd y llys bod Corr hefyd wedi bygwth cymydog a'r heddlu gyda chyllell ym mis Mai.
Dywedodd Jemma Gordon ar ran y diffynnydd ei fod wedi cael diagnosis o syndrom Asperger.
Roedd y Barnwr Nicola Jones wedi dweud wrth Corr ei fod "wedi meddwi" ac "wedi rhoi bywyd sawl person mewn perygl."