'Mam dwi'n mynd i farw': Carcharu dyn am ymosodiad ci ar fachgen yng Nghaernarfon
'Mam dwi'n mynd i farw': Carcharu dyn am ymosodiad ci ar fachgen yng Nghaernarfon
Mae mam i fachgen wyth oed ddioddefodd ymosodiad erchyll gan gi XL Bully yng Nghaernarfon wedi disgrifio'r profiad o ddarganfod ei mab yn gorwedd mewn pwll o waed ar soffa wedi'r ymosodiad.
Roedd y bachgen yn credu ei fod am farw wedi'r digwyddiad.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau fe gafodd Ian Parry, perchennog y ci, ei garcharu am 26 mis am fod â chi allan o reolaeth gan achosi anaf i'r bachgen ym mis Awst y llynedd.
Wrth ddarllen datganiad dioddefwr dirdynnol i'r llys, dywedodd Ffion Williams, mam Caio, sydd bellach yn naw oed, ei bod wedi cerdded gyda'i mab i dŷ'r diffynydd am 10.40 ar fore'r ymosodiad.
Ar ôl cyrraedd y tŷ, aeth Caio i chwarae am ychydig gyda mab i'r diffynydd cyn symud o'r tŷ i'r stryd.
"Doedd gen i ddim syniad fod na gi XL Bully yn y tŷ - mae'n frîd dwi'n amheus iawn ohono", meddai Ms Williams.
Dywedodd bod ei mab wedi bod yn chwarae yn y tŷ o'r blaen ond nad oedd syniad ganddi fod ci XL Bully yno.
Yn fuan ar ôl gadael ei mab, aeth i fflat tad Caio am ychydig, cyn clywed pobl yn gweiddi "Get the kids, get the kids."
"Fe newidiodd y gweiddi i sgrechian ffrantic," meddai.
'Gwaed ymhob man'
Dywedodd bod tad Caio wedi dweud wrthi fod ci wedi ymosod ar eu mab, ac fe aeth i dŷ ei mam, lle'r oedd ei mab wedi cael ei symud.
"Y peth cyntaf i mi weld oedd gwaed ymhob man. Roedd y soffa wedi ei gorchuddio mewn gwaed, y gobennydd a'r blancedi.
"Gwaeddodd: 'Mam dwi'n mynd i farw' a dyna pryd nes i weld fod ei fawd dde wedi mynd."
Dechreuodd y tŷ lenwi gyda meddygon, meddai ac fe wnaeth pobl dynnu dillad Caio i chwilio am anafiadau.
Roedd Ms Williams yn credu fod ei mab wedi colli ei lygad ac roedd ei gorff yn llawn crafiadau.
"Dechreuais feddwl: 'Beth sydd wedi digwydd?'"
Ychwanegodd ei bod yn teimlo'n euog iawn am yr hyn ddigwyddodd gan nad oedd wedi llwyddo i ddiogelu ei mab.
Yn ystod yr ymosodiad fe wnaeth Ian Parry drywanu ei gi ar ddau achlysur - gyda'r ci'n rhoi'r gorau i ymosod ar Caio dim ond ar ôl i Parry ei drywanu'r eildro.
Ysbyty
Yn dilyn yr ymosodiad cafodd Caio ei symud o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, lle bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys.
Wrth ddarllen datganiad dioddefwr ei mab yn y llys, dywedodd ei fam fod ei mab wedi cael ei fwlio yn yr ysgol ers y digwyddiad.
Dywedodd Caio yn y datganiad ei fod yn credu ei fod am farw yn ystod yr ymosodiad, a'i fod wedi "crio llawer" gan nad oedd modd iddo adael yr ysbyty am gyfnod.
Roedd Ian Parry wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Caernarfon ar 3 Gorffennaf.
Dywedodd y bargyfreithiwr Richard Edwards ar ran yr erlyniad fod swyddog cŵn yr heddlu dros Sir Caer a Gogledd Cymru, Gethin Edwards, wedi asesu'r ci gan gadarnhau ar y pryd mai XL Bully oedd o.
Fe gafodd y milfeddyg Charlie Granger ei gyfweld hefyd am y ci gan ei fod wedi ei frechu ym mis Ionawr 2024. Cytunodd y milfeddyg mai ci math XL Bully oedd o, a'i fod yn pwyso 11kg pan gafodd ei archwilio ar ddechrau'r flwyddyn.
'Dioddef'
Eisteddodd Parry yn y doc yn Llys Rhif 1 yn gwisgo crys gwyn, a throwsus a thei du ar gyfer ei ddedfryd.
Dywedodd Simon Killeen ar ran yr amddiffyniad fod y ci dan sylw wedi bod mewn caetsh cyn yr ymosodiad, ac mai plentyn oedd wedi agor drws y caetsh hwnnw, ac nid Mr Parry ei hun.
Clywodd y llys ei fod yn ddyn 45 oed oedd wedi troi ei gefn ar droseddu wedi cyfnod o flaen y llysoedd hyd at 2016.
Roedd yn ddyn gweithgar oedd gyda gwraig a phedwar o blant yr oedd yn gweithio'n galed i'w cefnogi, ac yn edifar yn llawn am yr hyn ddigwyddodd ar ddiwrnod yr ymosodiad meddai ei fargyfreithiwr.
Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, dywedodd y Barnwr Nicola Jones nad oedd y ci yn gwisgo harnes na choler, oedd yn ei wneud yn anodd i atal ymosodiad y ci.
Dywedodd fod y bachgen bach yn parhau i ddioddef poen yn ei law a bod ganddo greithiau ar ei gorff.
"Rwyf wedi clywed fod y bachgen yn dioddef bwlio yn yr ysgol", meddai'r barnwr, gan ychwanegu fod ei fam wedi ei galw i'r ysgol wedi i'w mab ymosod ar blentyn arall hefyd, a bod plant yn galw enwau cas ar Caio.
Cafodd Ian Parry ei anfon i garchar am 26 mis, gyda hanner y cyfnod i'w dreulio dan glo, a'r gweddill ar drwydded.
