Yr heddlu yn chwilio am ddynes 22 oed yn ardal Afon Menai
Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am ddynes 22 oed sydd ar goll ac a gafodd ei gweld ddiwethaf yn ardal Bangor Uchaf.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y chwilio yn parhau am Gwenno Ephraim, a gafodd ei gweld ddiwethaf yn ardal Bangor Uchaf nos Lun.
Y gred yw ei bod hi wedi cerdded tuag at Borthaethwy.
Mae fideo CCTV sydd wedi ei weld gan swyddogion yn ymddangos i ddangos Ms Ephraim yn cerdded ar ei phen ei hun rhwng 22:20 a 23:10 nos Lun.
Fe gafodd eitemau personol, a'r gred yw eu bod yn perthyn i Ms Ephraim, eu darganfod yn ddiweddarach ar Bont y Borth fore Mawrth.
Mae ymdrechion chwilio o gwmpas yr Afon Fenai yn parhau ddydd Iau yn ôl yr heddlu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: "Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddiflaniad Gwenno yn parhau i edrych ar sawl ymholiad yn eu hymdrechion i geisio deall ei symudiadau.
"Mae teulu Gwenno yn ymwybodol o'r amgylchiadau a arweiniodd at ei diflaniad a byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth a diweddariadau amserol wrth i'r ymchwilad ddatblygu.
"Mae ein meddyliau yn parhau gyda holl aelodau'r teulu yn ystod cyfnod anodd tu hwnt. Rydym yn cydnabod effaith emosiynol yr ymchwiliad, ac rydym wedi ein hymrwymo i gefnogi'r teulu gyda swyddogion arbenigol.
"Mae ein ymholiadau hyd yma yn ein harwain i gredu fod Gwenno o bosib wedi mynd i mewn i ddŵr yr Afon Menai.
"Ar y noson aeth hi ar goll, roedd Gwenno yn gwisgo trowsus llwyd, hwdi llwyd ac esgidiau du."