‘Yma o Hyd’: CPD Wrecsam yn datgelu cit newydd wedi’i ysbrydoli gan y Wladfa

Wrecsam - Y Wladfa

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi datgelu cit ar gyfer y tymor newydd, sydd wedi ei ysbrydoli gan y “gymuned Gymreig ym Mhatagonia”.

Yn dangos streipiau gwyn a glas golau llorweddol, mae trydydd cit y Dreigiau ar gyfer y tymor newydd yn debyg i batrwm crys tîm cenedlaethol yr Ariannin.

Mae’r ddraig goch i’w gweld ar gefn y cit i symboleiddio baner Cymry Patagonia, tra bod patrwm y ddraig yn gefnlen i’r streipiau gleision.

Gwyliwch y fideo isod:

Wrth gyhoeddi’r crys newydd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y clwb ddydd Iau, mae fideo yn dangos côr yn canu eu fersiwn o gan Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’ ar arfordir Ynys Môn ac ail gôr ym Mhatagonia yn ymuno â’r perfformiad.

Mae’r neges i gyd-fynd â’r fideo yn dweud: “I’r Wladfa. Ein 3ydd cit newydd wedi’i noddi gan @united. Yn dathlu 160 o flynyddoedd ers i bobl o Gymru symud i Batagonia am y tro cyntaf.”

Image
Patagonia
Roedd côr o Batagonia yn canu 'Yma o Hyd' mewn fideo i lansio'r cit newydd

Dywedodd Prif Weithredwr y clwb, Michael Williamson bod y cit yn “deyrnged bwerus i’r dreftadaeth rydym yn ei rannu gyda’r gymuned Gymreig ym Mhatagonia”.

Dywedodd llefarydd ar ran United Airlines, noddwyr y cit, bod “symbolaeth baner Y Wladfa ar y cit a’r ddau gôr yn y ffilm yn ffordd hyfryd o nodi’r cysylltiad cryf rhwng Cymru a Phatagonia.”

Llun: CPD Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.