Anhrefn Trelái: Dyn a menyw yn cyfaddef achosi terfysg

Car ar dan

Mae dyn a menyw wedi cyfaddef iddyn nhw achosi terfysg yn dilyn marwolaethau dau fachgen yn ardal Trelái, Caerdydd

Plediodd Jamie Jones, 24 oed a Lianna Tucker, 19 oed, yn euog i gyhuddiad o achosi terfysg yn 2023.

Roedd anhrefn ar strydoedd Trelái ar ddydd Llun, 22 Mai, 2023 yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, mewn gwrthdrawiad.

Dangosodd delweddau CCTV fan Heddlu De Cymru yn dilyn y bechgyn ar feiciau trydan cyn iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad yn ddiweddarach.

Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.

Roedd Mr Jones o Lanrhymni a Ms Tucker o Drelái wedi gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn mewn achos blaenorol, ond newidiodd y ddau eu ple cyn y gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr ddydd Gwener.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth gan y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke.

Mae 22 Rhagfyr wedi ei osod fel dyddiad arfaethedig eu dedfrydu.

Mae dros 40 o bobl wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad ddwy flynedd yn ôl.

Gan fod sawl diffynnydd yn yr achos mae'r llys wedi rhannu'r achos i dri rhan.

Bydd y rhan gyntaf yn cychwyn ar 22 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.