
Y llwybr troed hiraf yn Ewrop trwy dwnnel gam yn agosach yn y Rhondda
Y llwybr troed hiraf yn Ewrop trwy dwnnel gam yn agosach yn y Rhondda
Mae cynllun i agor y llwybr cerdded hiraf yn Ewrop trwy dwnnel yn y Rhondda gam yn agosach.
Agorwyd Twnnel y Rhondda, sydd bron i ddwy filltir o hyd, ym 1890 i gludo glo o Gwm Rhondda i Fae Abertawe i'w allforio, ond cafodd ei gau i drafnidiaeth rheilffordd yn 1968.
Cafodd y ddwy fynedfa eu cau gan wastraff pyllau glo erbyn 1981.

Ar daith arbennig, fe gafodd Newyddion S4C gip y tu ôl i'r lleni a dilyn rhan o'r llwybr tanddaearol yn y cymoedd.
Dywedodd Tony Moon, ysgrifennydd y cynllun a Steve Jones, aelod o'r pwyllgor tu ôl i'r fenter bod angen rhywbeth fel hyn yn Rhondda Cynon Taf, i hybu'r economï ac i ddathlu hanes cyfoethog yr ardal.
Perchennog y twnnel ar hyn o bryd yw Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, ac mae dan reolaeth Priffyrdd Lloegr.
Mae rheolau perchnogaeth yn gwahardd ei ail agor heb i’r berchnogaeth drosglwyddo i gorff cyhoeddus arall fyddai'n gyfrifol amdano.
Fe cam cyntaf y cynllun i ailagor y twnnel Fictoraidd a’i droi’n dwnnel cerdded a beicio hiraf Ewrop ei gyflwyno yn mis Ionawr, ac mae ddisgwyl penderfyniad erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Twnnel y Rhondda, Stephen Mackey: “Mae hwn yn gam cyffrous iawn yn y broses o ailagor twnnel y Rhondda yn llwyr. Fel twnnel cerdded a beicio hiraf Ewrop, bydd yn sicr o ddod â manteision economaidd, twristiaeth a diwylliannol i’r ardal gyfagos a’r rhanbarth cyfan.”
Cynhaliodd Balfour Beatty arolwg manwl yn 2018 er mwyn dod o hyd i amcangyfrif cost y cynllun i greu twnnel cerdded a beicio.
Yr amcangyfrif oedd cost o £13.11 miliwn.
Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn credu y byddai angen cyfnod adeiladu o 18 mis i gwblhau'r gwaith, gyda blwyddyn ychwanegol i gymeradwyo’r cynllun.
Nod y cais cynllunio yw datgelu mynedfa Blaencwm i Dwnnel y Rhondda drwy ail-gloddio'r toriad rheilffordd yn rhannol.
Bydd mynediad i'r twnnel yn parhau i fod yn gyfyngedig nes bod y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau.
Bydd hwn yn cael ei dirlunio fel y cam cyntaf wrth greu parc gwledig yn y dyfodol, yn cynnwys canolfan ymwelwyr ac atyniadau eraill.
Yn ôl Cymdeithas Twnnel y Rhondda, mae rhan o'r cyllid i ddatblygu'r twnnel eisoes wedi'i addo, "ond bydd angen i'r gymdeithas godi'r gweddill, a bydd yn gwneud hynny drwy amrywiaeth o fentrau codi arian."
Unwaith y bydd y gwaith ym Mlaencwm yn dechrau, y cam nesaf fydd datgelu'r fynedfa arall ym Mlaengwynfi yng Nghwm Afan.
Dywedodd Tony Moon, Ysgrifennydd y cynllun wrth Newyddion S4C: "Ein bwriad yw creu profiad ymwelwyr sy’n denu pobl o bob oed a gallu. Rhoddir pwyslais arbennig ar gyflwyno profiadau cofiadwy i’r anabl ac ymwelwyr hŷn."