Dau ddyn yn pledio'n ddieuog i 45 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant

Angus Riddell and Robin Griffiths

Mae dau ddyn wedi pledio’n ddieuog i gyflawni cyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant mewn cyn-ganolfan blant yn y Fenni.

Fe wnaeth Angus Riddell, 69, a Robin Griffiths, 65, ymddangos gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, wedi'u cyhuddo o 45 o droseddau rhyngddynt, yn ymwneud â 16 o ddioddefwyr.

Digwyddodd y troseddau rhyw a chorfforol honedig yn bennaf yng Nghanolfan Asesu Coed Glas, yn y Fenni, rhwng y 1970au a'r 1990au.

Fe wnaeth y ddau ddyn ymddangos yn y doc i wadu'r cyhuddiadau.

Fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke osod dyddiad ar gyfer yr achos llys, sef 18 Ionawr 2027.

Mae disgwyl i’r achos bara tri mis.

Ychwanegwyd cyfres o amodau mechnïaeth, gan gynnwys peidio â chysylltu â'i gilydd na'r dioddefwyr, a’r angen i rybuddio'r heddlu os ydynt yn bwriadu gadael y wlad.

Gwadodd Riddell, o Gwmbach, Rhondda Cynon Taf, 38 o droseddau, gan gynnwys tri chyhuddiad o ymosodiad anweddus ar ferch dan 16 oed ac un cyhuddiad o geisio ymosod yn anweddus ar ferch dan 16 oed.

Gwadodd hefyd 14 cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar fachgen dan 14 oed, a 20 cyhuddiad o greulondeb i berson dan 16 oed, a fyddai'n debygol o achosi dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

Mae Griffiths, gynt yn Ebbw Vale ym Mlaenau Gwent, sydd bellach yn byw yn Bideford, Dyfnaint,wedi'i gyhuddo o chwe chyhuddiad o ymosodiad anweddus ar fechgyn dan 14 oed ac un ymgais i ymosod yn anweddus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.