S4C yn darlledu rhagor o uchafbwyntiau’r Babell Lên
Bydd S4C yn darlledu rhagor o arlwy o’r Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl “galw mawr” i wneud hynny.
Bydd cyfle i ddal i fyny gydag Ymryson y Beirdd fis nos o ddydd Mawrth i ddydd Gwener ar sianel YouTube S4C, S4C Clic a BBCiPlayer.
Yn ogystal, bydd rhaglenni'r dydd a’r nos yn taro mewn i'r Babell Lên yn ddyddiol a bydd modd gweld rhaglen uchafbwyntiau arbennig o’r Babell am 21.00 ar 28 Awst.
Daw wedi i rai o feirdd Cymru ddweud bod penderfyniad S4C i beidio â darlledu rhaglen nosweithiol Y Babell Lên, drwy gydol wythnos Eisteddfod Wrecsam, “yn siom.”
Ddydd Gwener, dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan ei fod yn “ŵyl sy’n esblygu cymaint bob blwyddyn ac mae’n gamp ceisio adlewyrchu’r ystod eang o weithgareddau”.
“Eleni roedd galw mawr i ni gadw rhaglen arbennig o’r Babell Lên felly ry’n ni’n falch iawn o fod yn medru darlledu Ymryson y Beirdd o ddydd Mawrth i ddydd Gwener yn ogystal â’r uchafbwyntiau fydd yn cael eu darlledu yn ystod ein prif raglenni," meddai.
Beth fydd i’w wylio ar S4C?
Bydd S4C yn darlledu dros 170 awr o’r ŵyl ar draws holl blatfformau'r darlledwr, gan ddweud y bydd rhywbeth i ddiddanu pawb o bob oed sydd am fwynhau blas o’r Eisteddfod o gartref.
Heledd Cynwal a Tudur Owen fydd yn dechrau’r dydd gyda rhaglen y bore gan grwydro’r maes a dilyn y diweddaraf o gystadlu’r Pafiliwn.
Yn y prynhawn Nia Roberts fydd yn y stiwdio gyda Lloyd Lewis ac Eleri Sion yn codi hwyl a chynnal sgwrs. Gyda’r hwyr, tro Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur fydd hi i gyflwyno’r cystadlu a’r perfformiadau byw fin nos gan edrych yn ôl ar brif ddigwyddiadau’r dydd.
Fe fydd yna hefyd ffrwd arbennig Sedd o’r Pafiliwn ar S4C Clic ac am y tro cyntaf ar dudalen S4C ar BBC iPlayer.
Yn ôl y drefn arferol cynhelir Cymanfa Ganu’r Eisteddfod ar y nos Sul agoriadol am 20.00. Y Parchedig Aled Lewis Evans fydd yn arwain y noson, ac Ann Atkinson fydd yn codi’r canu gyda pherfformiadau gan Gôr y Gymanfa hefyd. Bydd cyfle i fwynhau’r cyfan ar raglen Y Gymanfa Ganu, nos Sul 3 Awst.
Ar nos Lun, 4 Awst am 21.00 bydd cyngerdd a hanner i’w fwynhau wrth i’r Sianel ddarlledu Cyngerdd Cofio Dewi Pws o Lwyfan y Maes. Bydd Pedair, Elidir Glyn, Linda Griffiths, Cleif Harpwood a mwy yn perfformio rhai o glasuron Dewi Pws, er cof am y cerddor a’r cyfansoddwr poblogaidd a fu farw y llynedd.
Nos Sadwrn, 9 Awst am 20.30 bydd Bwncath, un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru gloi’r ŵyl gyda pherfformiad bywiog ar Lwyfan y Maes, ac yn fyw ar S4C.
Yn ogystal â holl arlwy’r ŵyl bydd modd dal i fyny gyda phennod arbennig o Am Dro Steddfod! Ar S4C Clic a BBC iPlayer, lle bydd pedwar o sêr yr ardal - Stifyn Parri, Lili Jones, Rolant Prys a Sian Lloyd - yn dod i adnabod cartref yr Eisteddfod yn well.
Ar y Maes
I'r rhai sydd ar y maes, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar stondin S4C gydol yr wythnos.
Dydd Llun yw diwrnod y plant, a bydd cymeriad arbennig iawn yn galw draw i’r stondin i ddweud helo!
Drama fydd dan sylw ddydd Mawrth, tra bod cyfle i ddathlu dysgwyr ddydd Mercher.
Dydd Iau yw diwrnod dathlu menywod ym myd chwaraeon a cherddoriaeth, a dydd Gwener pobl ifanc ac addysg fydd dan sylw.
Mae croeso i ymwelwyr i’r maes alw draw am sgwrs ac i fwynhau’r digwyddiadau a’r gweithgareddau amrywiol.