Wrecsam yn 'le hollol wahanol' ers yr Eisteddfod ddiwethaf

Llinos Roberts

Mae 14 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r Eisteddfod ymweld â Wrecsam ddiwethaf, ond yn ôl trefnwyr mae'r ardal yn "hollol wahanol" erbyn hyn.

Dyna farn Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl, Llinos Roberts, sy'n gobeithio y bydd proffil uwch y ddinas diolch i “ddau o sêr Hollywood” yn denu cynulleidfa ehangach i'r Eisteddfod hefyd. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Llinos Roberts: “Ers i’r ‘Steddfod fod yma dwetha mae Wrecsam ‘di newid, mae’n le hollol wahanol. 

“Mae lot o bethau 'di digwydd fel Covid, fel Brexit, ond hefyd mae’r clwb pêl-droed ‘di cael ei brynu gan ddau o sêr Hollywood.

"A ‘deud y gwir mae canol y ddinas wedi newid.” 

Fe brynodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds glwb pêl-droed Wrecsam yn ôl yn 2020, ac ers hynny mae’r clwb a’r ddinas ill ddau wedi mynd o nerth i nerth. 

Image
Rob a Ryan
Rob a Ryan

“Mae ‘na lawer iawn o Americanwyr yn crwydro’r dre o ddydd i ddydd,” medd Llinos Roberts. 

Fe allai hynny gynnig profiad ychydig yn wahanol wrth ymweld â’r ardal o gymharu â’r Eisteddfod draddodiadol, ychwanegodd. 

“Mae ‘di trawsnewid. Oedd neb yn gwybod lle oedd Wrecsam ar draws y byd cyn hyn, ond erbyn hyn i ti dweud ti’n dod o Wrecsam mae pawb yn meddwl bod o’n cŵl – sydd yn chydig bach o newid dweud y gwir," meddai.

“Mae dyrchafiad Wrecsam ‘di golygu bod pawb yn y dre’, yn y ddinas, a’r gymuned yn lleol yn credu yn eu hunain yn fwy. 

“Dwi meddwl maen nhw’n meddwl bod ‘na obaith a bod gennym ni rhywbeth i gynnig – yng Nghymru a thu hwnt.” 

Image
Eisteddfod

'Prysur a phleserus'

Mae Ms Roberts wedi bod yn “brysur iawn” gyda’i dyletswyddau wrth iddi ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Gwaith hyrwyddo nid yn unig yr Eisteddfod, ond yr iaith Gymraeg hefyd. 

“Da ni wedi bod yn paratoi at y ‘Steddfod a’r gobaith ydy ein bod ni’n gallu rhoi blas ar yr ardal leol yn yr Eisteddfod eleni," meddai.

“Doedd llawer ddim yn ymwybodol o be’ oedd ‘Steddfod. 

“Llawer iawn o godi ymwybyddiaeth ‘da ni di bod yn ‘neud a cheisio cynnwys llawer iawn o gymunedau o bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg a bod 'na godi ymwybyddiaeth o’r iaith ac o’r diwylliant hefyd.

“Mae ‘di creu cymuned newydd," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.