Elen Wyn, gohebydd Newyddion S4C sy’n bwrw golwg ar ‘helynt y fedal ddrama'
Y llynedd, mi drôdd sefyllfa atal y Fedal Ddrama yn ddrama yn ei hun.
Mae’r drafodaeth am y dirgelwch yn dal i fudferwi ar wefannau cymdeithasol ac ar lawr gwlad, ac ymgyrchwyr yn dal i ofyn i’r Eisteddfod gynnig eglurhad pellach.
Un o’r rheiny ydi’r actores a’r awdur Sharon Morgan. Mae hi’n gyn-feirniad y Fedal Ddrama: "Mae’n anhygoel i feddwl fod dal dim eglurhad.
"A dweud y gwir mae’r ffordd y gwnaeth yr Eisteddfod ddelio gyda’r sefyllfa ar y pryd - mor ddisymwth, heb esboniad.
"A does dal ddim esboniad wedi bod er gwaetha’r ffaith fod cannoedd wedi arwyddo’r ddeiseb - yn bobol cyffredin ac ysgolhaig os gai ddeud.
"Mae’n teimlo’n bach yn sarhaus ac yn amharchus ac ei fod o wedi newid perthynas eisteddfotwyr efallai gyda’r eisteddfod ond hefyd fod y byd theatr yn teimlo bod nhw wedi cael eu esgymuno mewn ffordd.
"Wedi cael eu anwybyddu, bod yna ddim parch, ac mae o’n deimlad eitha annifyr o hyd i lawer iawn o bobol o hyd." ychwanegodd Ms Morgan.
Eleni, mae yna drefn newydd, ond un sydd wedi’i datblygu ers cyn Eisteddfod 2024 yn ôl swyddogion yr ŵyl.
Tro ‘ma, mae 'Medal y Dramodydd' wedi ei threfnu mewn 'cydweithrediad â Chonsortiwm o Gwmniau a Chynhyrchwyr Theatr yng Nghymru’ a’r cwmniau yma sy’n talu am y wobr. £3,000 i’r ennillydd a chyfle i ddatblygu’r gwaith cyn ‘darlleniad o’r script lawn’ ar y maes y flwyddyn wedyn.
Mae’r panel beirniad yn cynnwys wyth o bobol o sefydliadau theatr Cymru; a’r dasg oedd cynnig braslun stori a deialog neu ddrafft o ddrama gyflawn.
Mi gafwyd 20 cais eleni, sy’n fwy na’r arfer, ac yn dystiolaeth yn ôl y 'Steddfod bod y newid yn gweithio.
Un sy’n falch fod y gystadleuaeth wedi ei haddasu ydi’r dramodydd a'r cyfarwyddwr Kallum Wayman o Sir Conwy. "Mae o’n agor y drws i fwy o pobol allu rhoi drama ymlaen wrth sgwennu outline na sgwennu drama llawn.
"Mae’r pres (i’r ennillydd) wedi mynd i fyny, a hefyd mae cael cydweithio efo theatrau i ddatblygu’r script a’r awdur - Wel does dim pris ar hynny!
"Mae hi’n fwy realstic i ofyn i awdur roi outline yn lle gorfod sgwennu drama llawn a gneud dim byd efo fo os ti’n colli."
'Teimlo fod y Steddfod wedi gadael ni lawr'
Mae’r drafodaeth o gwmpas ‘helynt y fedal' yn rhan o gyd-destun ehangach. Mae nifer wedi sôn wrtha i am y 'pryder cyffrendinol’ am statws y theatr ar faes yr Eisteddfod.
Hiraeth am Theatr Bach y Maes a’r ddrama gomisiwn. Efallai o roi rhain i gyda at ei gilydd, mae yna deimlad ymysg rhai - nad ydi’r steddfod yn gwrando.
Fe egluroddd Sharon Morgan ym mhellach: "Mae’n wych cael theatr ar draws y maes ond dyw hynny ddim yn cymryd lle perfformiadau mewn lle arbennig lle mae pobol yn gallu eistedd a gwylio
"Ewch chi ar hyd y maes a gwelwch chi y gair - celf, gwyddoniaeth, gwerin a phob mathau o bethau ond welwch chi ddim y gair theatr. Mae fel tasa’r theatr yn cael ei ddiddymu yn gyfan gwbl ac yn cael ei ddiraddio yn llwyr gan yr Eisteddfod.
"Gyda’r celfyddydau mewn sefyllfa argyfyngus, dy ni angen bob help ellwn ni gael o bob cyfeiriad. A dweud y gwir mae’r gymuned theatraidd yn teimlo fod y Steddfod wedi gadael ni lawr.
"Y neges gyda fi i’r steddfod fyddai - rhowch gyfle i’r theatr, rhowch hawl a lle i’r theatr ar faes yr Eisteddfod. Parchwch y ffaith bod y theatr yn wirioneddol bwysig i ni fel cenedl.
"Ac wrth ei ddiddymu fel hyn a’i ddiraddio a diystyrru barn y byd theatraidd i chi’n neud cam mawr iawn a ni, mae'n dorcalonnus."
Yn ôl yr Eisteddfod mae’r gwaith theatr sydd wedi’i gyflwyno ar y maes dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawn “amrywiaeth" a "dychymyg" – ac yn dangos nad ydi drama yn "gyfyngedig i un ffurf nac un llwyfan".
Mae Kallum Wayman yn cytuno: "Dwi’n hoffi ma rhywun yn gallu cerdded drwy y Steddfod a ffendio theatr yn digwydd. Ma' hwnna'n brilliant. Mae o’n fantastic, ond mae o yn rhoi limitations ar pa math o theatr sy’n cael ei greu yn y Steddfod.
"Mae genno ni limmitations ar tech, limittations ar lleoliad. Os oes gen ti rwla arbennig ar gyfer y theatr yna ni’n gallu rhoi high quality theatr lwyfan yn yr Eisteddfod."
Mae swyddogion yr Eisteddfod wedi tanlinellu yn gwbl bendant wrtha i na fyddan nhw’n trafod atal y fedal ymhellach. Atalod llawn terfynol. Senario na, no, nefar, byth - efallai.
Fel newyddiadurwr dwi wedi dod i ddallt ers tro fod pynciau trafod sy’n gysylltiedig â'r Eisteddfod Genedlaethol yn straeon sy’n aml yn emosiynol ac yn hollti barn. Mae pobol YN malio, a dyna gryfder y brifwyl yn y bôn.
Mae cyndynrwydd yr Eisteddfod i gael trafodaeth gyhoeddus am hyn oll wedi siomi llawer un, ond maen nhw dro ar ôl tro wedi pwysleisio fod popeth y gallen nhw ei ddweud wedi cael ei ryddhau.
A chyda blwyddyn wedi mynd heibio oes angen ail godi’r pwnc? Ai dirgelwch fydd drama’r fedal ddrama am byth? Mi fydd rhai yn teimlo nad oes angen agor hen grachen, ac eraill yn sicr yn dal ati i dyrchu.