‘Ges i fy ngalw i gyfarfod efo MI5’: Eisteddfod Genedlaethol olaf Cledwyn Ashford fel Prif Stiward

Cledwyn Ashford

“Ro’n i wedi dychryn ond do’n i ddim yn credu y byddai’n rhaid i ni ddelio efo’r fath beth yn yr Eisteddfod.”

Un o atgofion Cledwyn Ashford o’i 18 mlynedd fel Prif Stiward y Steddfod oedd cael ei alw i gyfarfod gyda swyddogion MI5 er mwyn dysgu sut i ddelio hefo unrhyw fygythiad terfysgol.

Digwyddodd hynny cyn Eisteddfod 2012 ym Mro Morgannwg.

“Wir i chi, ges i alwad ar y radio bod ’na fag wedi’i ganfod wrth ochr un o’r polion yn y Pafiliwn Pinc,” meddai.

“Roedd o’n edrych yn iawn, ond roedd yn rhaid gwneud yn siŵr. 

“Ond tra’r oeddan ni’n aros am yr arbenigwr, aeth un o’r stiwardiaid at y bag a’i godi – ei fag o oedd o, a’r unig beth oedd y tu mewn iddo fo yn y pen draw oedd bocs o frechdanau!” 

Ers 18 mlynedd bu Cledwyn Ashford o Gefn-y-bedd ger Wrecsam, yn arwain tîm y Prif Stiward, ond cyhoeddodd y llynedd ei fod yn bwriadu rhoi’r tabard glas i gadw, unwaith ac am byth.

“Dwi wedi bod yn Brif Stiward ers Eisteddfod 2007. Mae’r gwaith yn galed ac mae’n ddiwrnod hir – ond dwi wedi cael llawer iawn o hwyl! 

“Bob blwyddyn, dwi’n dweud ‘hon ydi fy mlwyddyn olaf’, ond yn union fel mae Dafydd Iwan yn ei ganu, dwi ‘Yma o Hyd’. 

“Ond go iawn rŵan, hon ydi fy Eisteddfod Genedlaethol olaf i fel Prif Stiward,” meddai. 

‘Hotspots’

Yn ogystal â Cledwyn – neu Cled i bawb sy’n ei adnabod – bydd Iolo Povey o Ddyffryn Nantlle a Dylan Jones o’r Wyddgrug hefyd yn ymddeol.

Mae Iolo wedi bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ar y Maes am flynyddoedd, a Dylan yn rhedeg holl drefniadau’r tîm stiwardio ac yn gyfrifol am osod y Maes Carafanau. 

Mae’r tri ohonyn nhw’n gobeithio gweld gwaed newydd y genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr yn cymryd eu lle.

“Mae gwaith tîm y Prif Stiward yn dechrau am saith y bore pan rydan ni’n cyrraedd y Maes, a’n gwaith ni ydi gwneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn llyfn, goruchwylio’r prif seremonïau a sicrhau bod pawb yn saff,” meddai Cled.

“Gan ein bod ni wedi bod wrthi am flynyddoedd, mae gennym ni lawer iawn o brofiad, ac felly rydan ni’n gwybod lle mae’r ‘hotspots’ i gyd, fel y Maes Carafanau, Tŷ Gwerin a’r Pafiliwn wrth gwrs. 

“Erbyn hyn, mae ’na lawer o’r stiwardiaid yn hŷn na fi, felly rydan ni angen gwaed newydd i gario ’mlaen. 

“Y gobaith yw y daw ’na griw ifanc i gymryd drosodd, a dwi’n gwybod y byddan nhw’n cael blynyddoedd o hwyl – mae ’na lot o chwerthin, er ein bod ni, wrth gwrs, yn cymryd ein gwaith o ddifri.”

Eglurodd bod gwaith y Prif Stiward yn amrywio cryn dipyn. “Mae pobl yn colli pethau weithiau. Yn Eisteddfod Wrecsam tro diwetha’ roedd ’na byramids mawr, reit uchel, a pan ddywedodd dynes ei bod hi wedi colli sbectol yn un ohonyn nhw, ’nes i, Iolo ac un neu ddau arall fynd i nôl ysgol er mwyn mynd mewn i chwilio. 

“Ges i hyd i’r sbectol, ond wrth gwrs, heb i mi wybod, roedd yr ysgol wedi mynd ac ro’n i’n styc yn fan’no am hanner awr yn gweiddi ‘Help! Help!’” meddai Cled. 

‘Wrth fy modd’

Cafodd Cled ei urddo i’r Orsedd dair blynedd yn ôl. Profiad, meddai, roedd o wrth ei fodd yn ei dderbyn. 

“Nid am fy ngwaith eisteddfodol y ces i fy urddo, ond yn hytrach am y gwaith dwi wedi’i wneud gyda phêl-droed ar hyd y blynyddoedd,” meddai. 

Bu Cled yn athro ysgol am flynyddoedd, ac yn hyrwyddo gyrfaoedd pêl-droedwyr llwyddiannus fel Ian Rush, Kevin Ratcliffe a Gary Speed.

Ar ôl cyfnod o 21 mlynedd yn bennaeth Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug, aeth i weithio fel Swyddog Lles Rhanbarthol i Gymdeithas Pêl-droed Cymru. 

Mae’n cofio’r eiliad pan y clywodd ei fod wedi’i wahodd i’r Orsedd. 

“Ges i’r alwad a do’n i ddim yn siŵr. Oedd ’na rywun yn tynnu fy nghoes i?” meddai.

“Felly, fe ffoniais i Swyddfa’r Eisteddfod a gofyn os o’n i wedi cael fy ngwahodd go iawn! 

“Awgrymwyd fy mod i’n ffonio’r Cofiadur, Christine, a dyna ’nes i, a dweud mod i wedi cael y llythyr ’ma – ydi o’n genuine

“Ac fe dd’wedodd hi ei fod o’n genuine ac mi ges i ddiwrnod wrth fy modd, er bod yr hogia’ wedi tynnu ’nghoes i bryd hynny,” meddai. 

Gyda’i storfa enfawr o atgofion, mae Cled yn edrych ymlaen at barhau i fwynhau’r Eisteddfod yn y dyfodol, ond gyda llai o gyfrifoldeb. 

Ac wrth gwrs mi fydd o’n parhau i ddilyn hynt a helynt tîm pêl-droed Wrecsam a’r tîm cenedlaethol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.