Dynes ifanc o Fôn ar ei ffordd i America ar ôl ennill ysgoloriaeth redeg arbennig

Dynes ifanc o Fôn ar ei ffordd i America ar ôl ennill ysgoloriaeth redeg arbennig

Mae dynes ifanc o Fôn ar ei ffordd i America yr wythnos nesaf ar ôl llwyddo i gael ysgoloriaeth redeg arbennig. 

Mae Beca Bown yn 18 oed ac yn dod o Lannerch-y-medd, ond ddydd Mawrth, fe fydd hi'n hedfan i America lle y bydd hi'n astudio ym Mhrifysgol Philadelphia am bedair blynedd. 

Mae Beca wedi llwyddo i sicrhau ysgoloriaeth redeg brin sydd yn ei galluogi i barhau i ddatblygu yn ei champ yn ogystal ag astudio yn y brifysgol am bedair blynedd.

"Nes i glywed nôl amdana fo jyst cyn 'Dolig dwi'n meddwl oedd hi, oedd pobl wedi bod yn gofyn i fi os o'n i am fynd i America efo'r ysgoloriaeth, ag o'n i'm 'di meddwl lot am y peth," meddai Beca wrth Newyddion S4C. 

"Wedyn ges i neges ar Instagram gan y brifysgol yn gofyn os fysa gen i ddiddordeb."

Image
beca
Mae Beca wedi bod yn rhedeg ers yn blentyn ifanc.

Wedi iddi gael galwad gyda'r brifysgol, fe dderbyniodd Beca y cynnig.

"Ma'r ysgoloriaeth yn golygu bo' nhw'n talu am bob dim i fi, talu am y rhedeg, yr aros, y petha iechyd a bwyd, a felly ma'n anodd i goelio rili be' ma' nhw'n gynnig," meddai.

"Ma' 'na wefan o'r enw Power of 10 lle ma' gyd o'r rasys dwi 'di neud yn mynd arna fo, a wedyn dwi'n meddwl bod pobl draw yn America yn edrych ar heina a dewis ac edrych o gwmpas am athletwyr, a dwi 'di bod ddigon ffodus."

Mae'r ysgoloriaeth yn un prin, gyda llond llaw yn unig o athetwyr ar draws y byd wedi llwyddo i'w derbyn eleni. 

"Allan o brifysgol fi, ma’ ‘na tair ohona ni am fod ar y tîm (rhedeg), a dwi’n meddwl mai dwy ohona ni sydd ‘di cael yr ysgoloriaeth," meddai.

"Ma’r geneth arall sy’n mynd efo fi yn dod o Tasmania yn Awstralia a felly ma’n dangos rili sut ma’ pobl ar draws y byd yn gallu cael cyfleoedd fel ‘ma ond dwi’n edrych ymlaen i fynd yna."

Er y bydd ganddi hiraeth am Gymru, ei theulu a'i ffrindiau, doedd y cyfle ddim yn un oedd yn hawdd i'w wrthod yn ôl Beca. 

"Yn amlwg, ‘dan ni’n byw mewn rwla cefn gwlad felly ma’ bob dim yn bell i ffwrdd rili a felly wrth fynd i America, dwi’n meddwl bod y  cyfle yna yn rwbath ‘swn i methu deud na i," meddai. 

"Dio’m yn digwydd yn aml, ‘dach chi ddim yn clywed am lot sy’n cael mynd, felly edrych yn ôl mewn blynyddoedd i ddod, dwi’n meddwl ‘swn i’n difaru fy enaid yn peidio trio ag o leia wedyn, os dwi’n mynd, fedra i ddeud bo’ fi wedi  trio a rhoi cynnig arni."

Image
beca
Fe fydd Beca yn teithio i America ddydd Mawrth.

Mae Beca yn teimlo yn hynod o ddiolchgar am y cyfle. 

"Ma’n fraint mawr cael mynd, dwi mor falch bo’ fi’n gallu cynrychioli fy ngwlad wrth fynd yna a dangos  y fflag Cymraeg rili, ag edrych ymlaen yn ofnadwy," meddai.

"Dwi ‘di cael ysgoloriaeth fi oherwydd canlyniadau rhedeg fi, dwi’n mynd yna i ganolbwyntio ar rhedeg ac ymarfer wedyn ma’r addysg yn dod hefo fo, felly fydda i’n mynd yna a fydda i’n ymarfer a cynrychioli’r brifysgol. 

"Ond fydda i hefyd yn astudio Public Health sydd fatha Major yna,  ag yn ogystal â hynna, fydda i’n neud minors eraill fatha Mathemateg a Saesneg, a jyst dal i ddatblygu y rhedeg rili."

Image
beca
 Fe enillodd Beca ras y 1,500m yng Ngemau'r Ynysoedd ar Ynysoedd yr Erch (Orkney) ychydig o wythnosau yn ôl.

Yn bencampwr Cymru sawl gwaith, fe enillodd Beca ras y 1,500m yng Ngemau'r Ynysoedd ar Ynysoedd yr Erch (Orkney) ychydig o wythnosau yn ôl, wedi iddi redeg ei amser cyflymaf y tymor hwn.

"Oedd o'n sioc mawr i fi rili, o'n i'n mynd yna yn gobeithio ella gwthio am y medalau ond ennill, do'n i heb feddwl am so pan nes i groesi'r llinell gynta, o'n i mewn sioc," meddai. 

"Gan bo Ynys Môn, 'dan ni gyd mor agos fel tîm yna ag oedd o'n rwbath ofnadwy o sbeshial cael pawb yn cefnogi, oedd o'n eitha emosiynol a wbath fydda i'n cofio am byth."

Image
Beca a John
Beca a'i hyfforddwr, John.

Un sydd yn falch iawn o Beca ydy ei hyfforddwr presennol, John Messum, sydd yn hyfforddwr yng Nghlwb Athletau Menai Track & Field. 

"Dydy hi ddim eto yn gwybod pa mor dda ydy hi, dydi hi rili ddim. Mae hi'n gweithio ac yn hyfforddi yn galed iawn ac mor ymroddedig," meddai wrth Newyddion S4C. 

"Mae hi'n ymarfer chwe gwaith yr wythnos, ac ar y diwrnod o seibiant, mae hi'n casau cael diwrnod o seibiant!

"Dwi'n meddwl fydd hi'n grêt yn America, heb os, dwi'n meddwl ei bod hi am wneud yn dda iawn yno. Os ydy pethau yn mynd yn dda, mae ganddi siawns dda iawn o gyrraedd Gemau'r Gymanwlad, mae'n rhaid iddi gael y gemau yna fel targed."

Ychwnegodd John fod angen i athletau gael mwy o sylw fel camp.

"Ma' genna ni gymaint o athelwyr yma ym Menai Track & Field sydd o ansawdd uchel iawn, a hynny mewn ardal gymharol fach, a mae hynny yn grêt," meddai.

"Mae'n ofnadwy o bwysig, mae gennym ni gyfleusterau ffantastig yma, trac newydd, hyfforddwyr profiadol.

"Mae yna nifer o gyfleoedd, ac mae'r system ysgolion angen ceisio ein hybu ni hefyd, fel  bod yr athletwyr yn gwybod amdanom ni oherwydd 'dan ni yma i helpu.  

"'Dan ni'n gorfod cystadlu yn erbyn pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, felly mae'n rhaid i ni frwydro yn erbyn campau eraill."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.