Cadarnhau dyddiad achos llys menyw o Gaerdydd wedi’i chyhuddo o gefnogi Hamas

Tŷ William Morgan

Fe fydd achos llys menyw o Gaerdydd sydd wedi’i chyhuddo o fynegi cefnogaeth i Hamas yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth Kwabena Devonish, 27 oed, ymddangos gerbron Llys y Goron Bryste drwy gyswllt fideo ddydd Gwener ar gyfer gwrandawiad rheoli achos.

Mae hi wedi’i chyhuddo o fynegi barn neu gred sy’n cefnogi sefydliad gwaharddedig, sef Hamas, yn groes i Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Cafodd y drosedd honedig ei chyflawni yn Nhŷ William Morgan yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, ar 11 Tachwedd 2023.

Mae Devonish, o Bentrebane, Caerdydd, wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Roedd yr achos wedi’i drefnu ar gyfer 18 Awst eleni yn wreiddiol, ond fe wnaeth y Barnwr Martin Picton gadarnhau ddydd Iau y byddai nawr yn cychwyn ar 16 Mawrth 2026.

Disgwylir i’r achos bara hyd at bum niwrnod. Fe fydd gwrandawiad pellach i wneud trefniadau ar gyfer yr achos yn cael ei gynnal ar 2 Mawrth.

Llun: Tŷ William Morgam, lleoliad y drosedd honedig (Littlemonday/CC-by-SA)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.