Profiad 'emosiynol' côr yn yr Eisteddfod ar ôl marwolaeth Annette Bryn Parri

Cor Heddlu Gogledd Cymru / Annette Bryn Parri

Fe fydd hi'n brofiad "emosiynol" i gôr yn y gogledd wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ar ôl marwolaeth Annette Bryn Parri.

Bu farw'r pianydd a'r cyfeilydd yn 62 oed ym mis Mai, yn dilyn cyfnod o waeledd.

Roedd hi'n gyfarwyddwr Côr Heddlu Gogledd Cymru, a fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf eleni.

Nhw fydd y côr gwasanaeth brys cyntaf i gystadlu yn y brifwyl.

Dywedodd arweinydd y côr, y Rhingyll Arwyn Tudur Jones y bydd Annette gyda nhw "pob cam o'r ffordd" wrth iddyn nhw ganu ar y llwyfan.

“Mi fydd yn ddiwrnod hynod o emosiynol i ni wrth i ni fod ar y llwyfan heb Annette – fodd bynnag, ei breuddwyd hi oedd ein gweld ni’n cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod, felly rydym yn falch o wireddu ei breuddwyd," meddai.

"Does dim amheuaeth y bydd hi hefo ni bob cam o’r ffordd.

“Mi fydd Hawys Parri yn cyfeilio i ni, sef merch-yng-nghyfraith Annette, ac mae hi wedi bod yn ein cynorthwyo gydag ymarferion dros yr wythnosau diwethaf.

"Hoffwn ddiolch iddi am gamu i mewn, mewn amgylchiadau mor anodd."

'Cynhesrwydd'

Fe wnaeth Annette Bryn Parri gyfeilio ar sawl achlysur yn yr Albert Hall yn Llundain ac fe gafodd ei gwahodd i Balas Kensington i berfformio o flaen Charles [Tywysog Cymru ar y pryd] a’r ddiweddar Dywysoges Diana. 

Roedd hi'n cyfeilio i'r canwr Aled Jones ar y pryd, ac yntau yn ei arddegau.   

Ers 1993 roedd yn brif gyfeilydd i gorau Ysgol Glanaethwy ym Mangor, ac rhwng 2002 a 2011 bu’n Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion ​​y Traeth. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman o Heddlu Gogledd Cymru: “Wrth gwrs fe fyddwn ni’n meddwl am Annette ddydd Sul.

"Roedd hi’n rhan annatod o’r tîm ac o’r diwrnod cyntaf rhoddodd ei chalon a’i henaid i ddatblygu a meithrin y côr.

"Roedd ei chynhesrwydd, ei thalent a’i hangerdd yn arbennig a dwi’n gwybod ei bod yn gwerthfawrogi’r rôl yn fawr."

Fe fydd y côr yn cystadlu ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod yn Wrecsam yn y gystadleuaeth Côr Newydd.

Gyda bron i 60 o aelodau – gan gynnwys swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ynghyd â chydweithwyr sydd bellach wedi ymddeol, mae’r côr yn cyfarfod yn wythnosol yn y Pencadlys ym Mae Colwyn.

Disgrifiodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman cystadlu yn Wrecsam fel "carreg filltir" i'r llu.

“Mae hwn yn garreg filltir mor gyffrous i Heddlu Gogledd Cymru, a chyda’r Eisteddfod yn ddigwyddiad diwylliannol mor bwysig mae’n fraint fawr i ni fod yn cystadlu.

“Mae’r côr yn ein cynrychioli ni yma yn Heddlu Gogledd Cymru yn dda iawn – y cysylltiad, y positifrwydd a’r parch tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg."

12 o gorau fydd yn cystadlu i gyd a nod ffurfio Côr Heddlu Gogledd Cymru oedd hybu iechyd meddwl positif a hefyd hybu’r iaith Gymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.