Merch 17 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar yn Abertawe

01/08/2025
Ffordd Pentrepoeth, Treforys

Mae merch 17 oed yn yr ysbyty ôl cael ei tharo gan gar yn Abertawe.

Fe wnaeth y car adael y lleoliad ar ôl y digwyddiad, meddai'r heddlu.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Pentrepoeth yn Nhreforys tua 23:40 nos Iau wedi adroddiadau bod car wedi taro person.

Roedd merch 17 oed o Dreforys wedi cael ei tharo gan y cerbyd ar gyffordd Ffordd Pentrepoeth a Ffordd Sway.

Derbyniodd y ferch triniaeth gan barafeddygon yn y fan a'r lle cyn cael ei chludo i'r ysbyty.

Nid yw ei anafiadau yn peryglu ei bywyd nac yn rhai fydd yn newid ei bywyd.

Cafodd y ffordd ei gau am gyfnod cyn ail-agor.

Mae ymholiadau'r heddlu'n parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2500244736.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.