Dau fachgen yn gwadu llofruddio 'tad cariadus' yn y Barri

Kamran Aman.png

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi gwadu llofruddio "tad cariadus" yn y Barri.

Roedd y bechgyn 16 ac 17 oed, nad oes modd eu henwi oherwydd eu hoedran, wedi ymddangos yn Llys y Goron ym Merthyr Tudful ddydd Gwener.

Roedd y ddau wedi gwadu lladd Kamra Aman, a fu farw ar Ffordd y Barri yn y dref fis diwethaf.

Fe wnaeth y bechgyn ymddangos yn y llys ar wahân, gydag un yn y doc a'r llall drwy gyswllt fideo.

Mae 11 Tachwedd wedi ei osod ar gyfer dyddiad cychwyn yr achos.

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke bydd y ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa nes i'r achos gychwyn.

Roedd ffrindiau a theulu Mr Aman a'r bechgyn yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.

Wedi ei farwolaeth roedd teulu Kamra Aman wedi rhoi teyrnged iddo.

"Roedd yn ŵr ymroddedig, tad cariadus, mab, brawd, ewythr a ffrind ffyddlon annwyl - Kamran oedd calon ei deulu..," medden nhw.

"Yn adnabyddus am ei ysbryd hael a'i galon garedig, daeth Kamran â chynhesrwydd a chryfder i bawb yr oedd yn cyfarfod â nhw. 

"Mae ei absenoldeb yn gadael gwagle anfesuradwy ym mywydau pawb a'i hadnabu.

"Wrth i ni alaru am y golled annirnadwy hon, rydym hefyd yn anrhydeddu ac yn dathlu'r bywyd a fu'n ei fyw a'r effaith a wnaeth. Bydded ei atgof yn fendith.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.