Sir Gâr: Cymeradwyo cynllun i adeiladu ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol

Sir Gâr: Cymeradwyo cynllun i adeiladu ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae cynllun i adeiladu ysgol newydd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Gâr wedi ei gymeradwyo.

Fis diwethaf, fe gytunodd cabinet Cyngor Sir Gâr i edrych ar ddau ddewis ar gyfer dyfodol Ysgol Heol Goffa Llanelli - un yn ysgol 150 o ddisgyblion ac un arall yn ysgol ar gyfer 250 o ddisgyblion, gan gynnwys darpariaeth i blant â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth.

Mae 120 o ddisgyblion ag anghenion ychwanegol yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, mewn safle sydd wedi’i glustnodi ar gyfer 75.

Mewn cyfarfod ddydd Iau, penderfynodd cynghorwyr i gymeradwyo 'opsiwn pedwar', sef adeiladu ysgol ar gyfer 150 o ddisgyblion.

Mae disgwyl i gost o adeiladu’r ysgol i fod rhwng £27.5 miliwn a £34.8 miliwn. Nid oes cadarnhad eto ynglŷn â pha bryd y gallai’r ysgol newydd agor ei drysau.

Daw’r penderfyniad yn sgil ymgyrch hir gan rieni a llywodraethwyr i sicrhau dyfodol hirdymor i’r ysgol.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price ei fod yn “ddiwrnod positif iawn” i addysg yn y dref, gan ddweud bod “y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd.”

"Mae angen i ni gyflwyno'r achos busnes i Lywodraeth Cymru a chael yr addewid ariannol hwnnw.

“Byddwn ni’n mynd i’r afael â’r holl rwystrau statudol cyn gynted â phosibl. Dyna ein hymrwymiad ni fel Cyngor.

“Rydyn ni eisiau gwneud y gwaith hwn. Dydych chi ddim yn adeiladu ysgol dros nos. Bydd yn cymryd amser. Ond byddwn ni'n ei wneud cyn gynted â phosibl."

‘Pennod gyffrous’

Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd pennaeth Ysgol Heol Goffa, Ceri Hopkins: “Rydym yn falch o groesawu'r cyhoeddiad am adeilad newydd, addas ei bwrpas i'r disgyblion haeddiannol iawn yn Ysgol Heol Goffa.

"Rydym wedi bod yn aros am y newyddion sy’n bwysig iawn, iawn i'n cymuned ysgol.

"Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i ddylunio, adeiladu a chreu canolfan o ragoriaeth y gall Sir Gaerfyrddin fod yn falch ohoni.

“Mae hyn yn nodi pennod gyffrous newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa a'i disgyblion anhygoel.”

Fe fydd 133 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mis Medi, ac yn ôl llefarydd ar ran yr ysgol, fe fydd y penderfyniad y bydd y gwaith i adeiladu'r ysgol newydd yn gallu dechrau "yn gynt".

"Mae hyn yn newyddion da," meddai'r llefarydd.

“Mae opsiwn pedwar yn sicrhau ysgol newydd i ni yn gynt, gyda’r fantais fod y safle yno’n barod, gyda chaniatâd cynllunio.

"Er mae’n sicr fydd rhaid cyfaddawdu mewn rhai agweddau i ateb y gost, gobeithio fedrwn fireinio’r cynlluniau gwreiddiol er mwyn cadw’r hanfodion pwysicaf er lles ein disgyblion a staff.

"Byddwn yn dal i bwyso ar yr awdurdod am raglen waith er mwyn cadw at yr addewid a wnaed i’n disgyblion dros wyth mlynedd yn ôl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.