Siom ymysg beirdd na fydd rhaglen nosweithiol 'Y Babell Lên' o'r Brifwyl eleni
Yn ôl rhai o feirdd Cymru mae penderfyniad S4C i beidio â darlledu rhaglen nosweithiol Y Babell Lên, drwy gydol wythnos Eisteddfod Wrecsam “yn siom.”
Bydd sioe newydd Eisteddfod Wrecsam 'Y Stand' ddim yn cael ei darlledu yn llawn chwaith.
Dweud mae’r Yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru mai mater i S4C yw hyn.
Mewn ymateb fe ddywedodd S4C bydd "rhaglenni'r dydd a’r nos yn taro mewn i'r Babell yn ddyddiol i adlewyrchu'r digwyddiadau" yn Y Babell Lên.
Yn ôl un o hoelion wyth Y Babell Lên, Y Prifardd Jim Parc Nest, mae’n destun siom fel un na fydd yn teithio i Wrecsam eleni.
“Ma'r Eisteddfod gynta' fydda i'n ei cholli ers rai blynedd,” meddai.
“Mae'r golled yn mynd i fod yn fawr 'wi'n ofni. Dyna yw popeth wrth gwrs, yw bo' fi'n mynd i gael blas yr Eisteddfod trwy gyfrwng y teledu, ac os oes 'na dorri ar hwnnw, fe fydd yn amlwg yn siom.”
Mae’n debyg mai’r Babell Lên yw’r babell fwya adnabyddus ar y maes ar ôl y pafiliwn ac wedi bod yn rhan o’r brifwyl ers dros hanner canrif.
Image
Y Prifardd Jim Parc Nest
'Cwestiynau i'w hateb'
Yn ôl bardd fydd yn cyfrannu at yr arlwy yr wythnos mae yna gwestiynau heb eu hateb.
“Ydi o'n ormod i ofyn am un awr y dydd am wythnos, un wythnos y flwyddyn, yn ein un gŵyl Genedlaethol lle mae pobl yn gallu gweld sut mae'r iaith hynod 'ma sy' gynon ni yn gallu cael ei ddefnyddio i drafod bob math o betha', ydy hynny'n ormod?” meddai Karen Owen.
“Ac os ga i ateb 'yng nghwestiwn, dwi'm yn meddwl bod o'n ormod i ofyn, ond yn amlwg mae gan S4C eu rhesymau.
Image
Karen Owen
BBC Cymru sy’n cynhyrchu rhaglenni Yr Eisteddfod Genedlaethol ar ran S4C.
Yn ogystal â darlledu byw o’r cystadlu a hynt a helynt o’r maes drwy gydol yr wythnos fe fydd tri o brif gyngherddau’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn cael eu darlledu ar S4C eleni.
Ynghyd â blas o Sioe Agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol ar rhaglen Rhagflas o’r Eisteddfod ar y penwythnos cyntaf.
Fe fydd y Gymanfa Ganu yn cael ei darlledu ar 3 Awst, Cyngerdd Cofio Dewi Pws ar 4 Awst, a Chyngerdd nos Sadwrn o Lwyfan y Maes ar 9 Awst.
'Dumbio lawr?'
Yn ôl Huw Onllwyn, colofnydd a sylwebydd ar y cyfryngau mae’r Babell Lên yn cynnig cyfle i gynnwys “ar gof a chadw am flynyddoedd i bobl i astudio ac i fwynhau.”
“Felly dwi’n meddwl bod S4C ddim wedi meddwl am goblygiadau hyn dwi’n meddwl, yn ddigon.
“Felly dwi’n meddwl bod e’n siomedig iawn ac ydy e’n arwydd o bosib bod S4C yn dumbio lawr tipyn bach gormod? Felly dwi’n meddwl bod e’n benderfyniad siomedig.”
Dweud mai mater i S4C yw hyn oedd ymateb yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru.
Mewn ymateb dywedodd S4C bod “Y Babell Lên yn rhan annatod o’r Eisteddfod" a bydd “rhaglenni'r dydd a’r nos yn taro mewn i'r Babell” yn ddyddiol “i adlewyrchu'r digwyddiadau a'r bwrlwm yno."
“Bydd S4C yn darlledu gwasanaeth cynhwysfawr o’r Eisteddfod yn fyw bob dydd ar draws ein holl blatfformau gan gynnwys S4C Clic, BBCiPlayer ac YouTube S4C.”