Y Chwe Gwlad: Cymru i ddod yn bedwerydd medd Warburton
Mae gan Gymru’n gallu i orffen pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y pedwerydd safle meddai’r cyn-gapten Sam Warburton.
Dywedodd Warburton, wnaeth ennill 74 o gapiau dros ei wlad, ei fod yn credu gall Gymru guro’r Alban a’r Eidal gartref yn y bencampwriaeth.
Mae Cymru hefyd yn croesawu Ffrainc i Gaerdydd.
Mae Cymru wedi colli pob gêm yn y gystadleuaeth yn y ddwy flynedd diwethaf.
Fe fydd Cymru’n herio Lloegr yn eu gêm gyntaf ar 7 Chwefror yn Twickenham ac hefyd yn chwarae Iwerddon oddi cartref ym mis Mawrth.
Dywedodd Warburton, yn ei golofn yn y Times, ei fod wedi ymweld â charfan Cymru’n ymarfer yn ystod yr wythnos ac mae paratoadau’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi rhoi hyder iddo.
Dywedodd Warburton: “Dwi’n credu y gall Gymru guro’r Alban a’r Eidal ac felly gorffen yn bedwerydd.
"Mae’n rhwydd i edrych ar y gorffennol agos a’r golled o 73-0 yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd, ond roedd gymaint o chwaraewyr ddim ar gael dros Gymru a heb llawer o ddyfnder yn y garfan.
"Cofiwch fe wnaeth Cymru ddod yn agos at yr Alban a’r Eidal y llynedd ac roedd Cymru wedi gwella yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd. Roedd y golled o 68-14 i Loegr yng Nghaerdydd yn dangos pa mor ddibrofiad y mae’r garfan.
“Es i weld Cymru’n ymarfer yr wythnos hon a chefais gryn argraff o’r hyn a welais. Nid oedd yr awyrgylch yn un o dîm wnaeth colli o 73-0. Roedd yn galonogol iawn.
“Pan glywais Steve Tandy yn siarad, nes i feddwl ‘bydden i’n rhedeg trwy wal frics dros y boi ‘ma’.
“Rwy’n hoffi yr hyn mae’n siarad amdano, beth mae’n ei gynrychioli fel Cymro balch.”
Mae Warburton, arweiniodd Cymru i ennill y bencampwriaeth yn 2012 a 2013 a’r Gamp Lawn yn 2012, yn darogan y bydd Lloegr yn ennill y bencampwriaeth a’r Gamp Lawn trwy guro Ffrainc ym Mharis yng ngêm ola’r gystadleuaeth.
Llun: Sam Warburton gan Huw Evans.