'Colli mas' ar fywyd am ddegawd tra'n aros am lawdriniaeth cefn
'Colli mas' ar fywyd am ddegawd tra'n aros am lawdriniaeth cefn
Rhybudd: Mae rhai delweddau yn yr erthygl yma o natur feddygol sensitif, yn cynnwys delweddau o greithiau
Mae menyw ifanc wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at fyw bywyd “normal” am y tro cyntaf ers ei harddegau wedi iddi orfod disgwyl bron i ddegawd am lawdriniaeth ar ei chefn.
Cafodd Beth Priddy, 25 oed o Ferthyr Tudful, ddiagnosis o Spondylolysis neu ‘pars defect’ yn 20 oed.
Mae’r cyflwr yn gallu achosi poen cefn difrifol ac mae wedi cael effaith mawr ar fywyd Beth ers iddi fod yn 16 oed, meddai.
Dros y naw mlynedd diwethaf mae wedi bod yn dioddef gyda phoen “ofnadwy” wrth iddi deimlo ei hasgwrn cefn “symud” pob dydd a gyda’r nos.
Ond mae’n dweud ei bod hi wedi wynebu oedi wrth geisio mynd i’r afael â’i chyflwr, ac mae’n credu bod hynny wedi bod oherwydd ei hoedran ifanc.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd nad oedd hi’n teimlo fel ei bod hi wedi cael ei chymryd o ddifrif gan feddygon – gan olygu ei bod hi wedi “colli mas” ar fyw bywyd “normal” am bron i 10 mlynedd.
“Mae wedi cymryd naw mlynedd i fi cael llawdriniaeth fi a mewn gwirionedd, os oedd fi wedi cael hwnna pan roedd i’n tua 21, 22 bydde fi’n gallu cadw fynd gyda bywyd fi.
“Nawr dwi’n teimlo fel dwi wedi bod yn aros am oesoedd am hyn, dwi’n gwybod dim ond 25 ydw i, ond mae bywyd fi wedi bod ar pause.”
'Cyfnod rili anodd'
Fe aeth Beth i’r meddyg ynglŷn â’i phoen am y tro cyntaf pan oedd hi’n 16 oed.
Yn dilyn cyfnod o “frwydro” fe gafodd hi ddiagnosis pedair mlynedd yn ddiweddarach.
Ond mae’n dweud nad oedd ei llais yn cael ei glywed gan rai meddygon yn ystod ei thriniaeth.
Am gyfnod o dair blynedd roedd Beth wedi derbyn triniaeth ffisiotherapi, ond doedd ei phryderon corfforol adeg hynny ddim yn cael ei chymryd o ddifrif, meddai.
“Roeddwn i’n dweud, ‘Dwi ddim yn gwella gyda’r ffisio, dwi dal mewn poen uffernol a mae heb wedi newid mae jyst yn gwaethygu pob dydd.’
“Roedd e’n anodd i drïo cael pawb ar ochr fi a dweud dwi mewn poen, mae rhywbeth angen cael ei sortio achos dwi methu byw fel hyn.
“Mae jyst wedi bod yn gyfnod anodd rili.”
Roedd Beth wedi derbyn y driniaeth honno drwy law Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar eu rhan: “Rydym yn deall yr effaith y gallai amseroedd aros hir am brofion diagnostig eu cael... ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mor fuan â phosibl.”
Roedd yn ymddiheuro am ei phrofiad ac yn ei hannog i gysylltu gyda thîm arbenigol y bwrdd iechyd i drafod ei phryderon.
'Gobaith'
Fis Rhagfyr, fe gafodd Beth lawdriniaeth ar ei hasgwrn cefn yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
“Yr asgwrn oedd wedi cael ei effeithio oedd L1-S5 sydd reit ar y gwaelod,” esboniodd.
“Roedd angen rhoi screw yn yr asgwrn hwnna ar y top, a screw yn yr asgwrn ar y gwaelod a rhoi nhw gyda’i gilydd fel bod nhw’n gallu peidio â symud, achos dyna oedd y broblem.
“Wedyn gobeithio bydd yr asgwrn yn gallu tyfu o gwmpas hwnna a chreu asgwrn llawn.”
Ac er ei bod hi’n ddiolchgar am gael y llawdriniaeth honno, mae’n galw ar weithwyr yn y gwasanaeth iechyd i gymryd pryderon pobl ifanc o ddifrif.
“Doedd braidd dim help, unrhyw gymorth roedd neb rili eisiau delio gyda fi,” meddai wrth drafod ei phrofiadau ar hyd y degawd diwethaf. .
Mewn ymateb i bryderon Ms Priddy, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn gwella gwasanaethau a chynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau cyhyrysgerbydol (‘musculoskeletal’), rydym wedi cyhoeddi Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Cyhyrysgerbydol.
"Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ddefnyddio'r safonau hyn a sicrhau bod pobl â chyflyrau MSK (sef cyhyrysgerbydol) - gan gynnwys pobl ifanc - yn derbyn y gefnogaeth, y ddealltwriaeth a'r driniaeth sydd eu hangen arnynt."