Cymraes yn rhedeg yr ail 800m dan do gyflymaf erioed yn hanes athletau Prydain
Mae athletwraig sydd â’i bryd ar gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad wedi rhedeg yr ail 800m dan do gyflymaf erioed yn hanes athletau Prydeinig.
Fe wnaeth Isabelle Boffey, sydd â mam o Borthcawl, ennill ei ras yn y BU Terrier Classic yn ninas Boston yn yr Unol Daleithiau mewn munud 57.43 eiliad.
Pencampwr Olympaidd 2024, Keely Hodgkinson, sy'n dal record Prydain ar gyfer 800m dan do, sef 1:57.18.
Roedd amser Isabelle Boffey, sy’n 25 oed, ddwy eiliad yn gyflymach na’i hamser blaenorol.
"Dyma yn bendant oedd ras fy mywyd," meddai hi ar ôl y ras.
"Mae pethau gyda fi a fy hyfforddwr wedi bod yn mynd yn dda iawn ac rydw i mewn lle mor hapus ac iach.
"Rydw i mewn sioc ond mae'n gwneud synnwyr gyda'r hyfforddiant yr ydw i wedi bod yn ei wneud."
Dywedodd ei bod yn anelu at lwyddiant yn yr haf yng Ngemau'r Gymanwlad, pan fydd hi'n cynrychioli Cymru.
"Mae Gemau Ewrop a'r Gymanwlad eleni sy’n beth da gan mai dyma'r gam ymlaen i [Bencampwriaeth Athletau'r Byd] a'r Gemau Olympaidd,” meddai.
"Rydw i’n cymryd gymaint o hyder o hyn. Nawr rwy'n teimlo y gallaf wneud unrhyw beth."
Dywedodd ym mis Mai y llynedd ei bod hi’n bwriadu cynrychioli Cymru yn y dyfodol er iddi gynrychioli Lloegr yn y gorffennol.
“Fe gafodd fy mam ei geni ym Mhorthcawl," meddai.
“Tyfais i fyny yn Llundain, felly roedden ni'n mynychu ysgolion Saesneg, ac felly'n naturiol roedden ni'n cystadlu dros Loegr.
“Ond roeddwn i wedi bod yn meddwl am symud draw ers tro. Roedd yn beth eithaf hawdd i’w wneud.”