Llafur yn dewis ymgeisydd yn isetholiad Gorton a Denton ar ôl atal Burnham

Angeliki Stogia

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi mai Angeliki Stogia fydd eu hymgeisydd yn isetholiad Gorton a Denton ar gyrion Manceinion.

Daw’r penderfyniad wedi i Faer Manceinion, Andy Burnham, gael ei atal rhag sefyll gan Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y blaid.

Mae plaid Reform UK eisoes wedi cyhoeddi y bydd y cyflwynydd GB News a’r cyn-academydd, Matt Goodwin, yn eu cynrychioli nhw.

Mae’r Blaid Werdd wedi dewis Hannah Spencer, plymwr sy’n arwain y blaid ar Gyngor Trafford, yn ymgeisydd.

Mae’r isetholiad yn cael ei chynnal wedi ymddiswyddiad y cyn-AS Andrew Gwynne ar ôl problemau iechyd hirdymor.

Mae Angeliki Stogia yn gynghorydd dros Whalley Range yn ninas Manceinion ar hyn o bryd.

Dywedodd wrth dorf o ymgyrchwyr Llafur mewn digwyddiad yn yr etholaeth ddydd Sadwrn ei bod yn "fenyw falch o Fanceinion".

Ychwanegodd ei bod “wedi cerdded strydoedd yr etholaeth hon”.

“Mae Manceinion yn ddinas unedig, rydym yn gwrthod rhaniadau,” meddai.

“Rydw i yn edrych ymlaen at fynd allan ar garreg y drws ac ennill yr isetholiad i Lafur."

Dywedodd ymgeisydd Reform UK, Matt Goodwin, nad oedd “yn rhan o’r sefydliad” na “blob San Steffan” ac mae wedi addo rhoi “llais” i bobl yr etholaeth yn San Steffan.

Dywedodd ymgeisydd y Blaid Werdd, Hannah Spencer, a safodd yn etholiad maer Manceinion yn 2024: "Rwy'n gweithio fel plymwr, rhywbeth rydw i wedi'i wneud ers gadael addysg yn 16 oed. 

“Rydw i'n hyfforddi i fod yn blastrwr hefyd.

"Rydw i wedi byw yn yr etholaeth ac yn dal i weithio yma. Felly, rydw i'n gwybod y problemau a'r hyn y mae pobl eisiau ei newid."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.