Teyrngedau i ddynes 'ofalgar' o Ynys Môn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fam a mam-gu "gofalgar a thosturiol" o Ynys Môn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yng Nghonwy ddydd Iau.
Roedd Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch yn gweithio yng Nghartref Gofal Glan Rhos am fwy na dau ddegawd.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Forfa Conwy tua 12.00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a lori ger cyffordd 17 ar yr A55.
Bu farw Jennifer Anne Brown yn y fan a’r lle, meddai’r heddlu.
Cafodd tri pherson arall oedd yn teithio yn y car eu cludo i’r ysbyty.
Fe gafodd dau ohonynt eu cludo i Stoke ac Aintree mewn hofrennydd, ac un ohonynt i Aintree mewn ambiwlans.
Roedd gyrrwr y lori yn cynorthwyo’r llu gyda’u hymholiadau, meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd Cartref Gofal Glan Rhos fod Jenny yn cael ei hadnabod gan bawb fel ‘Queen’ ac yn “aelod gwerthfawr o staff yng Nglan Rhos ers dros 20 mlynedd”.
“Nid yn unig aelod o staff, roedd hi’n deulu,” medden nhw.
“Cerddodd drwy’r drws gyntaf fel merch 17 oed swil ac, dros amser, blodeuodd i fod y person gofalgar a thosturiol y daethom i gyd i’w hadnabod a’i charu.
“Cyffyrddodd Jenny â bywydau di-ben-draw drwy gydol ei gyrfa, gan gyfarch pawb bob amser â gwên gynnes a allai lenwi unrhyw ystafell â goleuni.
“Ni chyrhaeddodd y gwaith erioed heb ei cholur, yn enwedig ei minlliw nodweddiadol a’i hoff bersawr.
“Roedd Jenny yn falch iawn o’i theulu, yn fam a mam-gu ymroddedig.
“Mae’r newyddion am ei marwolaeth mewn amgylchiadau mor drasig wedi ein tristáu ni i gyd.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau’n mynd allan at aelodau’r teulu hefyd sydd wedi bod yn y ddamwain.
“Mae’r newyddion dinistriol hyn wedi effeithio’n fawr ar bawb yng Nglan Rhos – staff, cleifion a theuluoedd fel ei gilydd.
“Rydym eisoes wedi derbyn negeseuon a galwadau ffôn yn cynnig cydymdeimladau â theulu Jenny a phawb yn y cartref.”
'Gofal'
Mewn neges ar wefan GoFundMe, dywedodd teulu a ffrindiau Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch ar Ynys Môn fod eu “cymuned wedi cael ei dinistrio gan ddamwain car ofnadwy sydd wedi gadael merch ifanc, Keisha, 20, heb ei mam annwyl”.
“I wneud y drasiedi hon hyd yn oed yn waeth, mae gweddill aelodau ei theulu yn ymladd am eu bywydau mewn gofal critigol yn yr ysbyty,” medden nhw.
“Mewn eiliad, mae’r plentyn disglair yma wedi colli rhiant a oedd yn gofalu amdani bob dydd, ac mae bellach yn wynebu dyfodol ansicr wrth i’w hanwyliaid frwydro i wella.
“Mae hi ar hyn o bryd yn cael gofal gan ei ffrindiau teulu agos, ond mae’r ffordd ymlaen yn llawn heriau llethol.”
Ychwanegodd yr ymgyrch codi arian y byddai’r holl arian sy’n cael ei gasglu yn mynd tuag at gefnogi’r ferch a’i theulu.
