Lluniau ac ebyst yn ymwneud ag Andrew yn rhan o gyhoeddiad newydd o ffeiliau Epstein

Llun o gyhoeddiad diweddaraf ffeiliau Epstein

Rhybudd: Gall rhai manylion yn yr erthygl hon beri gofid.

Mae delweddau sy’n ymddangos fel petaen nhw’n dangos Andrew Mountbatten-Windsor yn cyrcydu dros fenyw yn rhan o’r cyhoeddiad diweddaraf o ffeiliau mewn cysylltiad â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Mae'r delweddau ymhlith mwy na thair miliwn o ddogfennau a gyhoeddwyd gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ddydd Gwener yn ymwneud â Epstein.

Dyw'r e-byst ddim yn awgrymu unrhyw ddrwg weithredu ac mae'r cyn-dywysog, Andrew Mountbatten-Windsor, wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.

Mae’r dogfennau yn cynnwys delweddau o ddyn yn penlinio ar y llawr wrth ymyl menyw sy’n gorwedd. Mae hunaniaeth y fenyw wedi ei guddio gan sgwâr du.

Does yna ddim capsiynau ar y 100 tudalen o luniau yn y dogfennau a does dim gwybodaeth ynglŷn â phryd na lle y cafon nhw eu tynnu.

Mae’r dogfennau hefyd yn cynnwys yr hyn sy’n ymddangos fel e-byst rhwng Jeffrey Epstein a 'The Duke' am fenyw “prydferth” o Rwsia.

Mae’r e-byst o fis Awst 2010, dwy flynedd ar ôl i Epstein bledio’n euog i geisio denu plentyn dan oed i gymryd rhan mewn puteindra.

Mae Epstein yn ysgrifennu fod ganddo “ffrind” y byddai 'The Duke' yn “mwynhau” cwrdd â hi/fe.

Wrth ymateb, mae 'The Duke' yn dweud: “Wrth gwrs. ​​Rydw i yng Ngenefa tan forer 22ain ond byddwn i wrth fy modd yn ei gweld hi. 

“A fydd hi’n dod â neges gennych chi? Rhowch fy manylion cyswllt iddi er mwyn cysylltu. A.”

Yn ddiweddarach yn yr edefyn e-byst mae Epstein yn ysgrifennu: “Mae hi’n 26 oed, yn Rwsiaidd, yn glyfar, yn brydferth, yn ddibynadwy ac oes, mae ganddi eich cyfeiriad e-bost.”

Image
Llun o'r ffeiliau Epstein diweddaraf
Un o'r lluniau o'r ffeiliau Epstein diweddaraf

Mewn cyfres arall o e-byst a gyhoeddwyd ddydd Gwener, mae cydymaith Jeffrey Epstein, Ghislaine Maxwell yn cytuno y dylai  “Andrew” ddewis treulio amser gyda “Sarah a’r plant” yn lle ymweld â’r “ynys” lle byddai “5 cochen drawiadol” (5 stunning red heads).

Mae’r cyfnewid e-byst rhwng cyfeiriad o’r enw “The Invisible Man” a Maxwell ym mis Awst 2002.

Mae’r e-byst yn awgrymu mai Andrew yw ‘The Invisible Man’ - mae Maxwell yn cyfeirio ato fel Andrew ac yn crybwyll enw ei gyn-wraig, ac mae negeseuon e-bost blaenorol o’r cyfrif yn cyfeirio at Balmoral a’r teulu brenhinol.

Ym mis Hydref fe gollodd Andrew Mountbatten-Windsor yr hawl i ddefnyddio'r teitlau tywysog neu Ddug Efrog wedi ei gysylltiad gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Cafodd Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan yn Awst 2019, tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiad o gyfres o droseddau rhyw.

Mae Maxwell o dan glo ers Gorffennaf 2020, er gwaethaf sawl ymgais gan ei thîm cyfreithiol i'w rhyddhau ar fechniaeth.

Cafodd ddedfryd o garchar am 20 mlynedd yn Efrog Newydd ym mis Mehefin 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.