Canada yn dilyn y DU gyda bwriad i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd
Mae Prif Weinidog Canada wedi cyhoeddi cynlluniau'r wlad i gydnabod Palesteina fel gwladwriaeth swyddogol ym mis Medi, sef y drydedd genedl G7 i wneud cyhoeddiad o'r fath yn y dyddiau diwethaf.
Dywedodd Canada fod y datblygiad yn dibynnu ar ddiwygiadau democrataidd, gan gynnwys Awdurdod Palesteina yn cynnal etholiadau y flwyddyn nesaf heb Hamas.
Daw sylwadau Mark Carney ddiwrnod ar ôl i'r DU gyhoeddi y byddai yn cydnabod Palesteina fel gwladwriaeth swyddogol ym mis Medi "oni bai bod Llywodraeth Israel yn cymryd camau sylweddol i ddod â'r sefyllfa erchyll yn Gaza i ben".
Fe gyhoeddodd Ffrainc eu bwriad tebyg wythnos yn ôl hefyd.
Fe wnaeth gweinyddiaeth dramor Israel wrthod cyhoeddiad Canada, gan ei alw yn "wobr i Hamas".
Mae mwyafrif o wledydd, 147 o'r 193 o aelod-wladwriaethau y Cenhedloedd Unedig, yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn swyddogol.
Dywedodd Mr Carney: "Mae'r lefel o ddioddefaint yn Gaza yn annioddefol ac mae'n gwaethygu'n gyflym."
'Gwobrwyo terfysgaeth'
Mae dynes o Brydain a gafodd ei chadw yn wystl gan Hamas wedi dweud nad yw Syr Keir Starmer yn "sefyll ar yr ochr gywir o hanes" gyda'i fwriad i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd.
Dywedodd Emily Damari, a gafodd ei rhyddhau ym mis Ionawr ar ôl cael ei chadw gan Hamas am fwy na 15 mis, fod y Prif Weinidog yn "peri'r risg o wobrwyo terfysgaeth".
Fe gafodd Ms Damari ei saethu yn ei choes a'i llaw a'i llusgo o'i chartref ar Kibbutz Kfar Aza ar 7 Hydref 2023, gyda'i ffrindiau Ziv a Gali Berman.
Mae'r efeillaid yn parhau i gael eu cadw gan Hamas, ac mae Ms Damari yn dweud ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau eu bod nhw a'r 50 o wystlon eraill, gyda rhai wedi marw, yn gallu mynd yn ôl at eu teuluoedd yn Israel.