Hywel Dda yn ‘ystyried opsiynau eraill’ gydag ysbyty newydd 10 mlynedd neu fwy i ffwrdd

glangwili

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud eu bod nhw’n “ystyried opsiynau eraill” ar gyfer gwasanaethau yn yr ardal gydag ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru 10 mlynedd neu fwy i ffwrdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio'r bwrdd, Lee Davies, wrth Newyddion S4C y byddai “blynyddoedd lawer” cyn bod ysbyty newydd yn cael ei adeiladu.

Roedd yr ysbyty newydd i fod wedi cael ei adeiladu erbyn 2029, gyda dau safle posib eisoes wedi cael eu clustnodi - un yn Sanclêr ac un yn Hendy-gwyn ar Daf.

Ond fe wnaeth Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddweud ym mis Tachwedd y llynedd ei fod bellach yn rhagweld y bydd 10 mlynedd neu fwy cyn y bydd ysbyty newydd.

Roedd y cyfan yn y pen draw yn dibynnu ar dderbyn arian gan Lywodraeth Cymru, meddai’r bwrdd iechyd.

“Nid oes cefnogaeth ariannol wedi’i sicrhau eto ac nid ydym wedi prynu unrhyw dir,” meddai Lee Davies wrth Newyddion S4C.

“Mae prosiectau mawr fel hyn yn cymryd blynyddoedd lawer i’w datblygu ac rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y ffordd ymlaen.

“Fodd bynnag, yn absenoldeb ysbyty newydd, rydym yn ystyried opsiynau eraill i ddod â rhai o’n gwasanaethau ynghyd.

“Rydym yn rhagweld y bydd y model sy’n dod i’r amlwg, wedi’i lywio gan waith ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, yn ceisio adeiladu ar gryfderau pob un o safleoedd yr ysbyty mewn ffordd sy’n adeiladu meysydd arbenigedd cyflenwol.”

‘Annerbyniol’

Daw ei sylwadau wedi i un o gynghorwyr Sir Benfro ddweud ei fod yn teimlo bod y Bwrdd Iechyd wedi “camarwain” pobl yn sgil yr oedi.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Williams, sy’n cynrychioli ward Gogledd Dinbych-y-Pysgod, ei fod wedi cwrdd â Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd a chael gwybod y gallai fod hyd at 15 mlynedd nes y bydd ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru.

“Roedd Prif Weithredwr blaenorol wedi dweud bod y gwasanaethau presennol yn annerbyniol heb ysbyty newydd,” meddai.

“Felly fe fyddwn ni’n parhau i dderbyn gwasanaethau annerbyniol dros gyfnod estynedig.”

Ond dywedodd Lee Davies nad oedd y sefyllfa “wedi newid ers ein diweddariad ym mis Tachwedd 2024”.

“Ar y pryd, amcangyfrifon ni y byddai darparu ysbyty newydd, os caiff ei gyflawni, yn debygol o gymryd o leiaf 10 mlynedd,” meddai.

Fe wnaeth y bwrdd iechyd gyflwyno cam cyntaf yr achos busnes i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2022.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C nad oedd ganddyn nhw ddim i'w ychwanegu at ddatganiad a roddwyd ym mis Tachwedd y llynedd: "Mae'r amserlen fanwl yn ansicr ar hyn o bryd, ond mae’n hanfodol dilyn canllawiau achos busnes Trysorlys Ei Mawrhydi ar brosiectau seilwaith mawr fel hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.